Meddyg niwrowyddorau Uned YR YMENNYDD yn ennill niwro-gystadleuaeth genedlaethol
6 Hydref 2017
Mae meddyg niwrowyddorau sy’n gweithio yn Uned Trwsio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN) wedi ennill cystadleuaeth Niwroanatomeg Ôl-raddedig y Gymdeithas Anatomegol Genedlaethol 2017.
Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Ronak Ved, meddyg Niwrowyddoniaeth yng Nghyfarwyddiaeth y Niwrowyddorau Caerdydd a'r Fro yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ar ôl iddo gystadlu yn y digwyddiad dros y DU a gynhaliwyd yn Ysbyty Prifysgol Southampton.
Yn y gystadleuaeth roedd meddygon yn cynrychioli adrannau niwrowyddoniaeth o bob rhan o Brydain yn cystadlu ar draws tri arholiad. Gwnaeth y rhai a gymerodd ran asesiad niwroddelweddu, her yn ymwneud â sbesimenau o ymennydd wedi’i ddyrannu, ac arholiad ysgrifenedig ar sail glinigol.
Fel yr unig gystadleuydd a oedd yn cynrychioli ysbyty yng Nghymru, gwnaeth Ronak yn wych ar ran y wlad a hawlio’r anrhydedd uchaf ar ôl sicrhau’r sgôr uchaf ym mhob un o elfennau’r gystadleuaeth.
"Mae'n fraint i gael fy nghydnabod am yr anrhydedd cenedlaethol hwn," meddai Ronak, y mae ei swydd yn cael ei hariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
"Yn fy swydd, mae cyfuno gwybodaeth am niwrowyddoniaeth â gofal clinigol effeithiol yn hanfodol er mwyn rhoi triniaeth o ansawdd uchel ac ennyn hyder yn ein cleifion.
"Mae’r gystadleuaeth hon yn profi pob un o’r sgiliau hyn, ac rwy’n hynod o falch fy mod yn helpu i ddenu sylw at Uned BRAIN fel canolfan ragoriaeth mewn niwrolawdriniaeth a datblygiad niwro-therapiwtig, ar lefel leol a chenedlaethol."
Meddai Jessica Castle, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer y Bwrdd Clinigol Gwasanaethau Arbenigol: "Roeddem wrth ein boddau o ddeall i Ronak ennill y digwyddiad cenedlaethol hwn a hoffem i gyd ei longyfarch am y llwyddiant gwych hwn.
"Mae’n aelod uchel ei barch a gwerthfawr o'r tîm Niwrowyddorau sydd wedi gweithio i’r adran ers peth amser ac yn ddiweddar mae wedi derbyn swydd Cymrodor Addysgu Niwroleg gyda ni."
Am fwy o wybodaeth am NRU a’r Uned (YR YMENNYDD), ym Mhrifysgol Caerdydd, ewch i: http://brain.wales/neuroscience-research-unit/