Busnes ac Economeg yn cadarnhau ei le’n y 100 uchaf
5 Hydref 2017
Mae Ysgol Fusnes Caerdydd wedi ei henwi ymysg 100 o brifysgolion gorau’r byd ar gyfer Busnes ac Economeg yng nghynghrair ryngwladol Addysg Uwch y Times ar gyfer 2017-2018.
Yn codi un lle oddi ar y llynedd, mae’r Ysgol bellach yn 92ain, yn selio’i lle ymhlith ysgolion busnes gorau’r byd.
Yn un o blith dim ond 15 o ysgolion busnes yn y DU i fod yn y 100 uchaf, cydnabuwyd yr Ysgol am ei rhagoriaeth academaidd a’i rhagoriaeth ymchwil, yn ogystal â’i hamgylchedd addysg sydd â phwyslais ar brofiad israddedigion.
“Balch tu hwnt”
Dywedodd yr Athro Martin Kitchener, Deon a Phennaeth yr Ysgol: “Y mae’r diolch am wella ar ganlyniad y llynedd ac i eto gael ein cydnabod fel un o ysgolion busnes gorau’r byd i’n staff a’n myfyrwyr.
“Rydym yn falch tu hwnt o’u haddysgu hardderchog a’u hymchwil ragorol sydd wrth wraidd yr hyn a wnawn...”
Mae’r llwyddiant yn dilyn o Gynghrair Prifysgolion y Byd THE 2018 a gyhoeddwyd yn ddiweddar, lle cododd Prifysgol Caerdydd ugain safle i 162 o 1,102 o sefydliadau ym mhedwar ban byd.