Prifysgol Caerdydd ymhlith y 100 gorau ar Restr y Times o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc
3 Hydref 2017
Am y tro cyntaf, mae Prifysgol Caerdydd wedi ymddangos ymhlith y 100 gorau ar Rhestr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau'r Byd, ar gyfer Addysg a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Bellach, mae Prifysgol Caerdydd yn safle rhif 78 ar gyfer Addysg a 91 ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol yn Rhestr The Times o Brifysgolion y Byd.
Mae'r newyddion yn dilyn y cyhoeddiad diweddar mai Prifysgol Caerdydd yw’r orau yng Nghymru yn ôl The Times Good University Guide 2018a’i bod wedi dringo 20 o lefydd i gyrraedd safle 162 yn Rhestr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau'r Byd.
Mae Rhestr THE o Brifysgolion Gorau'r Byd, a archwilir gan PwC, yn ei 13eg blwyddyn erbyn hyn, ac mae'n gosod 1,102 o sefydliadau ledled y byd ar ei rhestr, gan ddefnyddio 195 o wahanol bwyntiau data ar gyfer pob un o'r 1,500 o brifysgolion ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd, ynghyd â 250,000 eitem o ddata ynglŷn ag enw da a data llyfryddol gan Elsevier, yn seiliedig ar bron i 62m o ddyfyniadau i 12.4 o gyhoeddiadau ymchwil dros bum mlynedd.
Eleni hefyd, bu Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn dathlu bod ymhlith y 75 o sefydliadau gorau ar gyfer Cymdeithaseg a gyda’r 300 orau ar gyfer Addysg yn Nhabl Cynghrair o Brifysgolion y Byd, sydd hefyd yn cael ei galw’n gynghrair Shanghai Ranking.
Meddai Dr Tom Hall – Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol – am y canlyniad: “Rwyf wrth fy modd gyda’r canlyniad hwn ac yn teimlo’n falch iawn dros fy nghydweithwyr – eu gwaith caled a’u hymrwymiad nhw wnaeth hyn yn bosibl. Uwchlaw popeth, rwy’n falch dros ein myfyrwyr. Mae’n hyfryd meddwl amdanynt yn ymhél ag astudiaethau sydd wedi cyrraedd safleoedd mor uchel ar gynghrair fyd-eang Times Higher Education.”