Gwyddonwyr LIGO yn dathlu llwyddiant Gwobr Nobel
3 Hydref 2017
Mae gwyddonwyr LIGO o Grŵp Ffiseg Ddisgyrchol Prifysgol Caerdydd yn dathlu ar ôl i Rainer Weiss, Barry C. Barish a Kip S. Thorne ennill y Wobr Nobel mewn Ffiseg eleni.
Cafodd Gwobr Nobel mewn Ffiseg 2017 ei rhannu; hanner i Rainer Weiss, a'r hanner arall rhwng Barry C. Barish a Kip S. Thorne "am eu cyfraniadau pwysig at y synhwyrydd LIGO ac am arsylwi tonnau disgyrchiant".
Mae tonnau disgyrchiant yn grychdonnau bach yng ngofod-amser sy'n cael eu hallyrru o ganlyniad i ddigwyddiadau cosmig grymus, fel sêr yn ffrwydro a thyllau duon yn uno. Rhagfynegwyd y tonnau hyn gyntaf gan Albert Einstein yn 1916 o ganlyniad i'w ddamcaniaeth perthnasedd gyffredinol, a chawsant eu canfod am y tro cyntaf 100 mlynedd yn ddiweddarach.
Mae rhwydwaith o dri synhwyrydd hynod sensitif yn Louisiana, Washington (fel rhan o LIGO) a Pisa (fel rhan o Virgo) wedi canfod pedwar signal tonnau disgyrchol rhyngddynt hyd yma, ac maent yn parhau i sganio'r awyr am signalau prin.
Yn ystod y degawd diwethaf, mae’r Grŵp Ffiseg Ddisgyrchol ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n rhan allweddol o dîm LIGO, wedi gosod y sylfeini ar gyfer sut yr awn ati i ddarganfod crychdonnau disgyrchol, ac maent wedi datblygu algorithmau a meddalwedd newydd sydd, erbyn hyn, yn offer safonol ar gyfer chwilio am y signalau hyn, sydd mor anodd eu canfod.
Mae'r grŵp hefyd yn cynnwys arbenigwyr byd mewn gwrthdrawiadau tyllau duon, sydd wedi creu efelychiadau cyfrifiadurol graddfa fawr i ddynwared y digwyddiadau cosmig ffyrnig hyn a rhagfynegi sut mae tonnau disgyrchol yn cael eu hallyrru o ganlyniad. Bu’r cyfrifiadau hyn yn hollbwysig wrth ddatgodio pob un o'r pedwar signal ton ddisgyrchol a welwyd hyd yma er mwyn mesur priodweddau’r tyllau du a ganfuwyd.
"Mae rhwydwaith synwyryddion LIGO-Virgo yn wir wedi dechrau pennod newydd ym maes seryddiaeth. Mae gwobr eleni'n wobr addas ar gyfer y fenter newydd hon, fydd yn ehangu ein dealltwriaeth o sut mae'r Bydysawd yn gweithio."
Meddai'r Athro Mark Hannam, o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth: "Mae LIGO eisoes wedi ein galluogi i wneud nifer o ddarganfyddiadau – canfod tonnau disgyrchol yn uniongyrchol am y tro cyntaf, arsylwi system tyllau du deuol am y tro cyntaf, arsylwi tyllau du sydd nifer o weithiau'n fwy na'r haul am y tro cyntaf, a, gellid dadlau, arsylwi twll du yn uniongyrchol am y tro cyntaf. Ond y llwyddiant gwirioneddol anhygoel oedd creu'r synwyryddion LIGO. Roeddem eisoes yn gwybod bod tonnau disgyrchol yn bodoli. Roeddem eisoes yn gwybod bod tyllau du'n bodoli. Yr hyn wnaeth [A], [B] a [C] oedd adeiladu'r peiriant cyntaf oedd yn ddigon sensitif i fesur tonnau disgyrchol yn uniongyrchol.
"Cymerodd dros ddeugain mlynedd, a'r canlyniad oedd y ddyfais mesur fwyaf sensitif erioed. Mae'n beiriant anhygoel fydd yn trawsnewid y ein dealltwriaeth o'r bydysawd."