Gwyddonwyr y Dyfodol Cymry am dderbyn yr ‘her’
29 Medi 2017
Mae egin wyddonwyr o bob cwr o Gymru wedi bod yn cystadlu yng nghwis blynyddol yr Her Gwyddorau Bywyd, a gynhelir gan Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Cystadleuaeth rhwng ysgolion ar gyfer disgyblion blwyddyn 10 yw’r Her Gwyddorau Bywyd. Fe’i dylunnir a’i chyflwyno gan fyfyrwyr doethurol, myfyrwyr meddygol, gwyddonwyr, ac ymchwilwyr yn gynnar yn eu gyrfa o fewn yr Ysgol Meddygaeth.
Crëwyd y cwis hwyl, rhyngweithiol, a heriol i rannu brwdfrydedd dros ddeall y byd naturiol ac ysbrydoli disgyblion i ystyried posibiliadau helaeth gyrfaoedd sy’n ymwneud â gwyddoniaeth.
Ym mis Chwefror, cymerodd bron i 400 o ddisgyblion o 43 o ysgolion ran yn rowndiau cychwynnol y gystadleuaeth, sy’n digwydd ar-lein. Cynhelir y cwis ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg mewn cystadlaethau cyfochrog. Mae pob tîm yn cynnwys pedwar aelod sydd â diddordeb mewn mathemateg, gwyddoniaeth, a’r byd o’u cwmpas. Roedd yr wyth ysgol cyfrwng Cymraeg a Saesneg a wnaeth sgorio uchaf yn cymryd rhan yn y rowndiau gogynderfynol a chynderfynol ar ddechrau’r haf mewn ysgolion ar draws Cymru.
Y rhai oedd yn cystadlu am deitl Her y Gwyddorau Bywyd 2017 oedd: Ysgol Bro Morgannwg, Ysgol y Tryfan yn erbyn y Barri, Bangor ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Caerdydd yn erbyn Ysgol Gatholig Esgob Vaughan, Abertawe. Digwyddodd y rownd derfynol yn Adeilad Ymchwil Henry Wellcome, yn yr Ysgol Meddygaeth ddydd Gwener 15 Medi.
Enillwyr teilwng y gystadleuaeth eleni oedd Ysgol Gatholig Esgob Vaughan (cwis cyfrwng Saesneg) ac Ysgol Tryfan (cwis cyfrwng Cymraeg), a chyflwynwyd tlws i’r ddwy ysgol a siec am £150 i’w wario ar wyddoniaeth o fewn yr ysgol.
Dywedodd Dr James Matthews, trefnydd y cwis: “Mae’n arbennig o bleserus mai yn ei phumed flwyddyn y mae’r Her Gwyddorau Bywyd wedi bod yn gystadleuaeth genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Yn draddodiadol, mae disgyblion wedi cael y cyfle i gystadlu dros eu hysgol ym meysydd cerddoriaeth, chwaraeon, a drama, felly mae’n wych cael cystadleuaeth timol ar gyfer ysgolion sy’n cydnabod ac yn gwobrwyo y rheiny sy’n rhagori mewn mathemateg a gwyddoniaeth. Nod y cwis yw ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, peirianwyr a meddygon yng Nghymru”.
Ychwanegodd Nia Jones, athrawes o Ysgol Tryfan: "Roedd yn brofiad gwerth chweil! Roedd y cwis yn heriol ac yn gyffrous, yn enwedig yn y rownd derfynol am yr oedd hi mor agos rhwng Ysgol Tryfan ac Ysgol Bro Morgannwg. Mwynhaodd y disgyblion mas draw yr elfen heriol drwy gynnwys nid yn unig gwestiynau yn seiliedig ar wyddoniaeth TGAU ac i raddau Lefel AS, ond hefyd ar wybodaeth gyffredinol a datblygiadau cyfredol ym myd gwyddoniaeth.
“Mae gallu cystadlu’n Gymraeg ar y lefel hon yn brofiad y dylai pob myfyriwr ei gael, ond yn anffodus, prin yw’r cyfleoedd. Cymeradwyaf Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd am weld pwysigrwydd cynnal y gystadleuaeth yn y ddwy iaith.
"Roedd hedfa i lawr i Gaerdydd ac yna ennill yn wych! Mae gen i ddisgyblion blwyddyn 10 sydd eisoes yn gofyn am gystadleuaeth y flwyddyn nesaf!”