Robot sganio 3D yn ennill gwobr flaenllaw i un o raddedigion Caerdydd
28 Medi 2017
Mae robot sy’n creu map 3D o’r hyn sydd o’i gwmpas wrth symud drwy’r amgylchedd wedi ennill gwobr flaenllaw i un o fyfyrwyr graddedig Prifysgol Caerdydd yng Ngwobrau Israddedigion 2017.
Gan gyflwyno ei greadigaeth yn erbyn dros 6,000 o feddyliau disgleiriaf y byd, roedd Samuel Martin ymhlith y 10 y cant uchaf o fyfyrwyr cyfrifiadureg a gymerodd ran, ac fe’i dewiswyd yn Enillydd Rhanbarthol dros Ewrop yn ei faes.
Gwobrau’r Israddedigion yw prif raglen wobrwyo israddedigion yn y byd. Cafodd ei sefydlu’n wreiddiol i godi proffil prosiectau ymchwil israddedig a dod â myfyrwyr o bedwar ban byd ynghyd.
Costiodd robot Samuel, a enwyd yn “sprinkles”, lai na £100 i’w adeiladu a gall sganio ei amgylchedd drwy fwrw laser ar ongl a mesur siâp yr adlewyrchiadau.
Wedi’i greu o argraffydd 3D gyda Raspeberry Pi ynddo, gall y robot brosesu data’r laser yn gyflym a chreu darlun 3D o’i amgylchedd. Ar yr un pryd, gall deithio’i amgylchedd yn rhwydd ac osgoi rhwystrau.
Cred Samuel y gallai ei greadigaeth cost isel gael ei defnyddio mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau, fel adfer wedi trychinebau lle gellid defnyddio fflyd o robotiaid cymharol rad i fynd i mewn i adeilad a ddymchwelwyd cyn defnyddio offer drutach. Gallai’r dechnoleg hefyd gael ei rhoi ar ddronau i archwilio’r ardal o’r awyr.
Meddai Samuel wrth dderbyn y wobr: "Roeddwn i’n synnu ac yn rhyfeddu pan sylweddolais i fod fy mhrosiect wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Israddedigion byd-eang. Fues i erioed yn un da am lunio papurau neu draethodau, ond roedd hwn yn rhywbeth roeddwn i’n teimlo’n angerddol yn ei gylch. Rwyf mor falch ei fod wedi cael ei gydnabod y tu mewn i Brifysgol Caerdydd a thu hwnt."
“Fy mhrif nod oedd profi nad oes angen y galedwedd ddiweddaraf na PhD mewn peirianneg electronig i greu robot o ddim, a’i gael i wneud pethau rhyfeddol.”
Cafodd robot Samuel ei asesu’n annibynnol gan banel o academyddion rhyngwladol ac arweinwyr yn y diwydiant a chyrhaeddodd y rhestr fer yn y categori Cymeradwyaeth Uchel,gan olygu ei fod ymhlith y 10 y cant gorau.
Fe’i dewiswyd hefyd yn Enillydd Rhanbarthol Ewrop, sef y cynnig gorau ar y cyfandir o ran Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol.
Mae Samuel, a raddiodd o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd ym mis Gorffennaf, wedi’i wahodd i dderbyn tystysgrif am ei wobr yn Uwchgynhadledd Gwobrau’r Israddedigion yn Nulyn ym mis Tachwedd.
Dywedodd Dr Brenda Cullen, Cyfarwyddwr Gweithredol, Gwobrau’r Israddedigion: “Mae’n gyflawniad enfawr i fyfyrwyr israddedig feincnodi eu gwaith ar lefel ryngwladol. Gall ennill cydnabyddiaeth am eu creadigrwydd a’u dull arloesol o weithio yn eu disgyblaeth eu rhoi ar ben ffordd i fod yn feddylwyr byd-eang ac o bosibl gwneud newid go iawn. Rydym yn gwerthfawrogi cymorth y gymuned academaidd fyd-eang yn fawr sy’n gweithio’n agos gyda Gwobrau’r Israddedigion i nodi’r myfyrwyr trawiadol hyn.”
Dywedodd Michael D. Higgins, Arlywydd Iwerddon: “Mae Gwobrau’r Israddedigion yn dathlu meddwl gwreiddiol, creadigol ymhlith myfyrwyr, ac ni fu erioed cymaint o angen am gapasiti critigol o’r fath.”