Ymchwilwyr a staff y Brifysgol yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd
28 Medi 2017
Bydd staff ac ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn rhoi eu hesgidiau rhedeg ymlaen ddydd Sul i redeg cwrs 13.1 milltir o hyd drwy Gaerdydd. Byddant yn gwibio heibio rhai o leoliadau adnabyddus y brifddinas i godi arian ar gyfer achosion elusennol ac i ariannu gwaith ymchwil hanfodol.
Ian Horton
Swyddog Arloesedd a Phartneriaeth, Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd
Bydd Ian yn cystadlu yn Hanner Marathon Caerdydd ar ran y Sefydliad Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil arloesol sy’n ceisio trawsnewid triniaethau canser.
Dyma fydd y pedwerydd tro i Ian gystadlu yn y ras eiconig drwy’r brifddinas, ac mae’n gobeithio codi £150 mewn rhoddion elusennol eleni.
Gallwch noddi Ian ar JustGiving.
Gareth Hurley
Swyddog Arian, Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd
Bydd Gareth yn ymuno â thros 22,000 o redwyr eraill wrth y llinell gychwyn y tu allan i gastell eiconig Caerdydd. Mae’n cymryd rhan yn ras ffordd fwyaf Cymru i godi arian ar gyfer ymchwil canser gyda’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Gareth ac Ian wedi cymryd rhan yn y ras gyda'i gilydd ers sawl blwyddyn, gan godi dros £1,000 i gyd.
Gallwch noddi Gareth ar JustGiving.
Dr Mark Young
Uwch-ddarlithydd, Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd
Bydd Dr Mark Young yn tynnu ei gôt labordy am y tro ac yn rhoi ei esgidiau rhedeg ymlaen ddydd Sul 1 Hydref. Bydd yn rhedeg ei hanner marathon cyntaf drwy Caerdydd ar ran Mind, elusen iechyd meddwl sy'n ceisio gwella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl.