Olrhain cludwyr bychain y corff
28 Medi 2017
Gallai datblygu techneg newydd ar gyfer labelu trawsgludwyr y corff – exosomes – gynnig buddiannau tymor hir o ran trin cyflyrau meddygol sy’n bygwth bywyd, gan gynnwys canser.
Mae tîm o ymchwilwyr yn Ysgolion Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, Meddygaeth a Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, ynghyd â Sefydliad Gwlad y Basg er Gwyddoniaeth yn Sbaen, wedi darganfod ffordd newydd o labelu’r pethau pitw hyn, sy’n cael eu cynhyrchu gan gelloedd yn naturiol.
Mae exosomes yn chwarae rôl bwysig yn y modd y mae celloedd, gan gynnwys celloedd canser, yn cyfathrebu â'i gilydd, a gall arwain at ddatblygu’r clefyd. Fodd bynnag, mae ymchwil mwy diweddar wedi dangos y gellir defnyddio exosomes hefyd fel trosgwlyddwyr bychain, er mwyn cludo cyffuriau i fynd i'r afael â nifer o glefydau mewn mannau gwahanol yn y corff dynol.
“Gallu naturiol rhyfeddol i ddylanwadu”
Erbyn hyn, mae'r gwaith ymchwil arloesol hwn wedi canfod ffordd newydd o labelu exosomes fel eu bod yn troi’n fflwroleuol, a gellir eu holrhain drwy gyfrwng microsgopeg fflworoleuedd. Mae hyn yn golygu gall ymchwilwyr archwilio exosomes yn llawer manylach, a’u gweld yn rhyngweithio â chelloedd, ac yn mynd i mewn iddynt.
Yn hollbwysig, datgelodd y gwaith ymchwil hwn hefyd - sydd wedi’i ariannu gan gonsortiwm Ewropeaidd COMPACT - yn ogystal, unwaith eu bod wedi’u labelu, bod yr exosomes yn parhau i weithio fel negesyddion ac yn dal i allu effeithio ar gelloedd, wedi iddynt gael eu labelu.
Yn ôl Yr Athro Arwyn Jones o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd, “gyda lwc, bydd ymchwilwyr eraill, yma ym Mhrifysgol Caerdydd yn ogystal ag o gwmpas y byd, yn gallu defnyddio’r dull newydd hwn o labelu exosomes i ddatgelu ymhellach beth yw eu gallu naturiol rhyfeddol i ddylanwadu ar fioleg ac o bosibl, creu cyffuriau i drin clefyd.”
Yn y tymor hirach, o labelu exosomes drwy gyfrwng y fethodoleg a ddatblygwyd yn sgil yr ymchwil hwn, bydd yn bosibl astudio’n tra fanylach sut y maent yn rheoleiddio amgylchedd canser, neu sut y gellir eu llwytho â chyffuriau i gludo meddyginiaeth i diwmorau neu organau ddiffygiol o fewn y corff.
Mae’r ymchwil ‘Labelu fesiclau allgellog yn fflworolau gan ddefnyddio strategaeth newydd ar sail thiol, at ddibenion dadansoddiad mesurol o drosglwyddiad cellog a thraffig mewngellol’ wedi’i gyhoeddi yng nghyfnodolyn Nanoscale.