Galw am fwy o effaith gan ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau
26 Medi 2017
Ymgasglodd consortiwm o arbenigwyr rhyngwladol yng Nghaerdydd i lofnodi datganiad yn galw am well cefnogaeth i effaith gan y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau.
Gan adeiladu ar Ddatganiad Leiden 2014 a'r Maniffesto ar gyfer Metrigau Ymchwil dilynol, mae Datganiad Caerdydd yn galw am gydnabod yr amrywiol fathau o effaith a ddaw yn sgil ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau.
Mae'n dadlau bod ymchwil yn rhy aml yn cael ei ystyried mewn termau gwerth economaidd a datblygiadau technolegol yn unig, gan anwybyddu buddion diwylliannol, cymdeithasol a chyhoeddus ehangach. Cyfeiriwyd at ddatblygiad Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) ym Mhrifysgol Caerdydd fel enghraifft flaenllaw o'r modd y gellir cyfoethogi effaith cymdeithasol.
Cefnogir y Datganiad gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Dyniaethau Canada, y Consortiwm Cymdeithasau Gwyddorau Cymdeithasol yn UDA a humanomics o Brifysgol Aalborg. Mae'r llofnodwyr yn cynnwys yr Athro James Wilsdon, Cadeirydd Ymgyrch y Gwyddorau Cymdeithasol, a Geoff Mulgan, Prif Weithredwr Nesta.
Dywedodd yr Athro Wilsdron: "Mae'r cyd-destun o fewn addysg uwch yn glir - mae effaith ymchwil yn bwysig. Mae hyn yn yr un mor wir i'r gwyddorau cymdeithasol ag yw i'r gwyddorau ffisegol a bywyd. Rydym ni am weld mwy o feddwl ynghylch sut i annog gwyddonwyr cymdeithasol i wneud yn siŵr fod eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth i ddinasyddion."
Dywedodd yr Athro George Boyne, Dirprwy Is-Ganghellor Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd: "Roedd Datganiad Leiden yn pwysleisio'r angen i gydnabod pwysigrwydd unigryw'r gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau, ond mae angen adlewyrchu hyn yn ymarferol. Mae Datganiad Caerdydd yn ymwneud yn benodol ag effaith cymdeithasol y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau a sut y gallwn ei wella..."
Trefnwyd y cyfarfod ym Mhrifysgol Caerdydd gan y Rhwydwaith Hyrwyddo a Gwerthuso Effaith Cymdeithasol Gwyddoniaeth (Rhwydwaith AESIS), cymuned ryngwladol sy'n ysgogi ac yn dangos effaith gwyddoniaeth ar yr economi, diwylliant a llesiant. Dewiswyd y Brifysgol fel lleoliad ar gyfer llofnodi oherwydd iddi greu SPARK, lle bydd academyddion yn rhannu gofod gyda chyrff sector preifat, cyhoeddus a thrydydd sector i gynllunio a phrofi datrysiadau i broblemau cymdeithas. Bydd yn eistedd ochr yn ochr ag athrofeydd ar gyfer lled-ddargludyddion a chatalysis ar Gampws Arloesi.
Dywedodd David Sweeney, Darpar Gadeirydd Gweithredol Research England: "Mae gweledigaeth SPARK yn gwbl wych..."
Dywedodd yr Athro Rick Delbridge, Arweinydd Academaidd SPARK: "Gwnaeth y gynhadledd ddatganiad clir am y gwahaniaeth y mae ymchwil gwyddorau cymdeithasol yn ei wneud. Rydym ni'n rhannu'r uchelgais honno yng Nghaerdydd drwy greu ein Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol. Mae'n enghraifft ymarferol o arloesi ac rydym ni'n gobeithio y gellir ei ail-greu mewn mannau eraill. Dyma enghraifft o wyddonwyr cymdeithasol yn cael cefnogaeth bwrpasol.
"Yr hyn sy'n arbennig o gyffrous a nodedig am ein cynlluniau yw y byddwn yn gwahodd partneriaid ymchwil a defnyddwyr allanol i gyd-leoli gyda'n grwpiau ymchwil, i rannu'r cyfleusterau a gweithio gyda ni i gynllunio, datblygu, cynnal a chymhwyso ymchwil yn ymarferol. Mae Datganiad Caerdydd yn galw am syniadau arloesol sy'n hybu effaith; gall SPARK wneud hyn drwy ymgysylltu â'r cyhoedd yn uniongyrchol i fframio problemau a chreu gwybodaeth."