Cytundeb gwerth miliynau o bunnoedd i MedaPhor
26 Medi 2017
Mae MedaPhor, cwmni deillio o Brifysgol Caerdydd, wedi cytuno i brynu Intelligent Ultrasound.
Sefydlwyd MedaPhor yn 2004, ac mae'n ddarparwr efelychwyr hyfforddi uwchsain datblygedig i weithwyr meddygol proffesiynol. Mae Intelligent Ultrasound, sy'n gwmni deillio o Brifysgol Rhydychen, yn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau sy'n gwneud delweddu uwchsain yn adnodd diagnostig mwy effeithiol. Yn amodol ar gymeradwyaeth y rhanddeiliaid, bydd MedaPhor yn prynu'r cwmni dadansoddi delweddu am hyd at £3.6m.
Mae gosodiad cyfrannau hefyd wedi galluogi MedaPhor i godi £5.5m arall i ddatblygu cynhyrchion Intelligent Ultrasound ymhellach yn ogystal â'i gynhyrchion realiti estynedig, efelychydd ac adran hyfforddi ei hun. Yn ogystal bydd y cyllid newydd yn ariannu gofyniad cyfalaf gweithio Grŵp MedaPhor.
Dywedodd Stuart Gall, Prif Weithredwr MedaPhor: "Mae hwn yn gaffaeliad strategol fydd yn helaethu ein busnes efelychwyr hyfforddi uwchsain i'r farchnad meddalwedd uwchsain clinigol ehangach..."
Mae'r cytundeb yn cyd-fynd â chyhoeddi bod MedaPhor wedi ennill contract efelychwyr systemau niferus yn Mohawk College yng Nghanada. Mae efelychwr ScanTrainer MedaPhor yn cynnig profiad hunan-ddysgu sganio uwchsain unigryw sy'n ail-greu dysgu un-wrth-un gan arbenigwr. Mae'n defnyddio sganiau go iawn gan gleifion, o fewn rhaglen hyfforddiant addysgol, i addysgu'r sgiliau sganio uwchsain craidd ac uwch, heb fod angen peiriant uwchsain na chlaf, gyda thipyn llai o oruchwylio arbenigol.
Dywedodd yr Athro Nazar Amso, sylfaenydd MedaPhor: "Rydym ni wrth ein bodd yn gweld MedaPhor yn mynd o nerth i nerth. Mohawk College sy'n rhedeg y rhaglen addysg sonograffeg fwyaf yng Nghanada; mae'n gyffrous meddwl am yr effaith y byddwn yn ei gael ar y genhedlaeth nesaf o glinigwyr."
Mae MedaPhor wedi'i restru ar farchnad AIM Cyfnewidfa Stoc Llundain, ac mae ei bencadlys yn Georgia, UDA a Chanolfan Iechyd Caerdydd. Mae Canolfan Iechyd Caerdydd yn brosiect ar y cyd rhwng y Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae Medicentre, sydd ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru, yn cynnig gofod meithrin ar gyfer cwmnïau technoleg feddygol a biodechnegol blaenllaw. Ei ddiben yw cynorthwyo busnesau newydd ym maes gwyddorau bywyd ac mae wedi helpu cwmnïau fel MedaPhor i dyfu i fod yn fusnesau llwyddiannus sy’n gwerthu cynnyrch a gwasanaethau ar draws y byd.
Dywedodd Dr Justin John, Swyddog Meithrin Busnesau yn Medicentre: "Mae MedaPhor yn enghraifft wych o’r hyn yr ydym yn credu ynddo yn Medicentre. Maent yn uchelgeisiol, ymagwedd ryngwladol ac yn sylfaen ar gyfer rhagoriaeth glinigol."