Gornest Prifysgolion Cymru 2015
20 Ebrill 2015
Bydd Tîm Caerdydd yn wynebu Tîm Abertawe ac yn cefnogi ymgyrch #careiauenfys Stonewall
Bydd y digwyddiad chwaraeon mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru yn dechrau ar 22 Ebrill pan fydd myfyrwyr o Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn dod wyneb yn wyneb ar gyfer cystadleuaeth flynyddol Gornest y Prifysgolion.
Am 19 blynedd, mae'r digwyddiad wedi denu dros 30 o glybiau chwaraeon o'r ddwy brifysgol i gystadlu yn erbyn ei gilydd i ennill Tarian Gornest y Prifysgolion. Yn uchafbwynt ar y cyfan mae gêm rygbi'r dynion i ennill Cwpan Gornest y Prifysgolion.
Mae'r campau'n cynnwys rhwyfo, beicio, criced, polo a lacrosse.
Eleni, bydd Gornest Prifysgolion Cymru yn mynd tua'r gorllewin i Stadiwm Liberty Abertawe a lleoliadau eraill o amgylch y ddinas. Disgwylir i dros 20,000 o wylwyr ddod i gefnogi eu timau.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae cael eich dewis i gystadlu yng ngystadleuaeth Tarian Gornest y Prifysgolion, yn Ras Gychod Cymru neu yng nghystadleuaeth Cwpan Gornest y Prifysgolion yn gamp a hanner, a hoffwn longyfarch pob un ohonoch sy'n cymryd rhan.
"Rwy'n dymuno cystadleuaeth ddiogel a theg i bawb. Pob lwc i chi i gyd."
Eleni, mae myfyrwyr y ddwy brifysgol yn cefnogi ymgyrch 'Careiau Enfys' (Rainbow Laces) Stonewall. Nod yr ymgyrch yw mynd i'r afael â homoffobia mewn chwaraeon a chefnogi chwaraewyr hoyw.
Mae ymgyrch Careiau Enfys wedi cael cefnogaeth amlwg gan enwogion fel arwr rygbi Cymru Gareth Thomas, Stephen Fry, Gary Lineker, Thomas Hitzlsperger, Clwb Pêl-droed Arsenal a Chlwb Pêl-droed Manchester City. Mae gwaith ymchwil Stonewall Cymru ar y cyd â Chwaraeon Cymru yn dangos bod un person lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol o bob tri wedi teimlo eu bod wedi'u cau allan o'r byd chwaraeon oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol. Roedd tri ymatebydd o bob pedwar wedi clywed cellwair homoffobig.
Dywedodd Luke Young, Rheolwr Ymgyrchoedd Stonewall Cymru: 'Trwy wisgo Careiau Enfys yn ystod Gornest Prifysgolion Cymru, bydd myfyrwyr Caerdydd ac Abertawe yn anfon neges gref na ddylai cyfeiriadedd rhywiol chwaraewr, na'i hunaniaeth o ran rhywedd, fod yn rhwystr rhag cymryd rhan, a bod chwaraeon yn y brifysgol yn agored i bawb. Mae'n newyddion gwych bod Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe wedi penderfynu herio atgasedd a rhagfarn yn erbyn pobl hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol mewn chwaraeon."
Yn ôl Bryn Griffiths, Llywydd yr Undeb Athletau, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd: "Heb os, Gornest y Prifysgolion 2015 fydd uchafbwynt y flwyddyn ar gyfer Tîm Caerdydd, ac rydym yn hynod falch o ddangos ein hymrwymiad at herio atgasedd a rhagfarn yn erbyn pobl hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol, gan ddangos nad oes rhaid cuddio cyfeiriadedd mewn chwaraeon'. Rydym yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe a Stonewall Cymru i helpu i chwalu rhai o'r rhwystrau sy'n gwneud i fyfyrwyr hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol deimlo eu bod yn cael eu cau allan, neu deimlo'n anghyfforddus wrth gymryd rhan mewn chwaraeon."