Syr Mansel Aylward wedi'i gyhoeddi fel Cadeirydd Newydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
21 Medi 2017
Mae’r Athro Syr Mansel Aylward, cyn-gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyn-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi’i benodi’n Gadeirydd newydd Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru Cyfyngedig.
Wedi ei lansio yn 2014, mae'r Hwb Gwyddorau Bywyd wedi dod yn ganolbwynt y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru. Gan ddod ag academyddion, gwasanaethau busnes a chlinigol a phroffesiynol at ei gilydd, mae'r hwb yn cynnwys pob gweithgarwch o fewn y sector, o ariannu i gymorth busnes i ddatblygu rhyngwladol.
Fel rhan o'i benodiad newydd, bydd yr Athro Aylward yn arwain ar ddatblygu gweledigaeth a chenhadaeth newydd ar gyfer yr Hwb, gan gynnwys darparu cyfleoedd i ehangu cwmpas yr Hwb Gwyddorau Bywyd a sicrhau bod cysylltiad rhwng y GIG a Diwydiant.
“O nerth i nerth”
Wrth groesawu'r Cadeirydd newydd, dywedodd Julie James: “Mae'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru wedi mynd o nerth i nerth yn ddiweddar, gan gyflawni llawer mwy na'r disgwyl ar y llwyfan rhyngwladol ac mae bellach werth oddeutu £2 biliwn i economi Cymru.
“Yr hyn sy'n allweddol i'r llwyddiant hwnnw ac i sbarduno arloesedd ar draws y sector fu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf ac rwy'n falch bod yr Athro Syr Mansel Aylward wedi derbyn fy ngwahoddiad i fod yn Gadeirydd ei Fwrdd...”
Wedi treulio ei yrfa yn gweithio ar draws y sector, daw yr Athro Aylward â gwybodaeth a phrofiad i'r swydd.
Meddai: “Mae'n anrhydedd imi ac rwyf yn falch iawn o gael fy mhenodi yn Gadeirydd yr Hwb Gwyddorau Bywyd...”
“Hefyd, mae'n rhaid i'r Hwb ffynnu fel elfen allweddol o weledigaeth Llywodraeth Cymru i gyflymu gweithgarwch datblygu economaidd o fewn y sector gwyddorau bywyd, trwy wneud mwy i annog ystod eang o sefydliadau ar draws y diwydiant, academia, GIG Cymru a buddsoddwyr i gydweithio i sefydlu Cymru fel un o'r amgylcheddau gorau ar y llwyfan rhyngwladol o ran arloesedd, menter ac arfer gorau yn y sector hwn.
“Heb anghofio fy mod hefyd yn ei ystyried yn bwysig i sicrhau bod amcanion a nodau yr Hwb Gwyddorau Bywyd yn cyd-fynd â nifer o amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Byddaf yn ymrwymo ac yn ymdrechu fel Cadeirydd i gyflawni'r amcanion hyn ac yn awyddus iawn i geisio arwain a llywodraethu'r Bwrdd a'i hybu i sicrhau llwyddiant yr Hwb Gwyddorau Bywyd gyda'i hamcanion newydd.”
Bydd yr Athro Aylward yn dechrau ar ei swydd newydd fel Cadeirydd ym mis Hydref 2017.