Y Brifysgol Orau yng Nghymru 2018
22 Medi 2017
Mae Prifysgol Caerdydd wedi dringo 11 lle a chael ei henwi’r Brifysgol Orau yng Nghymru 2018 yn The Times & The Sunday Times Good University Guide 2018.
Mae Caerdydd yn y 35ain safle ac yr uchaf ymhlith prifysgolion Cymru unwaith eto. Dim ond unwaith y mae’r Brifysgol wedi methu â dod i’r brig yng Nghymru ers i’r Good University Guide gael ei lansio 20 mlynedd yn ôl.
Dyma hefyd y tro cyntaf i Gaerdydd gael ei henwi’n swyddogol y Brifysgol Orau yng Nghymru yn y flwyddyn o dan sylw.
“Rydym am i Gymru ymfalchïo ynom”
Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Mae codi 11 lle yn y Good University Guide eleni yn newyddion calonogol dros ben.
“Rydym am i Gymru ymfalchïo ynom a’n nod yw chwarae rhan allweddol yn llwyddiant economaidd a chymdeithasol y genedl. Dyna pam mae cael ein henwi’r Brifysgol Orau yng Nghymru eleni yn gymaint o bleser...”
Uchelgais Prifysgol Caerdydd yn bod ymhlith yr 20 prifysgol orau yn y Good University Guide.
Ychwanegodd yr Athro Riordan: “Er bod gwaith i’w wneud o hyd, mae hwn a’n canlyniadau eraill eleni yn dangos ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir. Yr hyn sy’n bwysig i ni fel Prifysgol yw parhau i ganolbwyntio ar ein gwaith, cynnal ein momentwm a gwireddu ein huchelgais yn y pen draw.”