Gwyddonwyr y Brifysgol yng Ngŵyl Lyfrau Caerdydd
19 Medi 2017

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd a Chanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg yn ymuno â Gardd Einstein yng Ngŵyl Lyfrau Caerdydd i agor llyfrgell ychydig yn wahanol.
Yn y digwyddiad dros dro hwn bydd llyfrgellwyr a gwyddonwyr yn cydweithio eto, yn Llyfrgell Canol Caerdydd y tro hwn, i helpu ymwelwyr i ddod o hyd i'r cyfrinachau cudd yng ngenynnau eu hoff gymeriadau ffuglen.
Bydd Llyfrgell Genynnau'r Dychymyg, sy'n rhan o Ŵyl Lyfrau Caerdydd yn agor ar gyfer busnes ar 22 a 23 Medi.
Agorodd y llyfrgell genynnau arbennig ei ddrysau am y tro cyntaf gyda lansiad hudol yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd yn 2016.
Cymeriadau ffuglen enwocaf y byd

Dros bedwar diwrnod yn nigwyddiad celfyddydol a cherddoriaeth gyfoes mwyaf Cymru, cafodd pobl yn yr ŵyl gyfle i bori drwy lyfrau a biofanc sy'n cynnwys 'samplau genetig' o gymeriadau ffuglen enwocaf y byd.
Ymunwch â ni yng Nghanol Dinas Caerdydd a phori drwy'r llyfrau a'r samplau i ddarganfod sut mae ein genynnau, yn ogystal â'n gweithredoedd a'n dewisiadau, yn dylanwadu ar ein straeon.
Esboniodd y myfyriwr PhD Hayley Moulding: “Mae Llyfrgell Genynnau'r Dychymig yn rhoi cyfle i chi archwilio gweithrediadau mewnol eich hoff gymeriadau...”
“Mae hwn yn dangos mewn modd bywiog a chlir sut gallwn ddefnyddio geneteg i ddeall gwahanol bersonoliaethau a gweithredoedd pobl. Drwy ddefnyddio cymeriadau ffuglen poblogaidd, gan gynnwys Harry Potter a Jane Eyre, gallwn weld sut y gallai eu DNA fod wedi cyfrannu at eu penderfyniadau drwy gydol eu straeon. ”
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at agor y llyfrgell eto, felly dewch draw i ddadansoddi DNA eich hoff gymeriad a dysgu ychydig mwy am geneteg ac iechyd meddwl.”
Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn sy'n agored i bawb, a bydd wedi'i leoli ar drydydd llawr Llyfrgell Canol Caerdydd.
Bydd Llyfrgell Genynnau'r Dychymig yn agor:
14:00 – 17:00 ddydd Gwener 22 Medi
11:00 – 13:00 a 14:00 – 16:00 ddydd Sadwrn 23 Medi
Rhannu’r stori hon
Mae nifer o'n prosiectau ymchwil yn recriwtio aelodau o'r cyhoedd fel gwirfoddolwyr.