Ymchwil Caerdydd ar graffîn yn ‘newid arloesol’ ar gyfer y diwydiant
16 Ebrill 2015
Gallai profion ar graffîn gan ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd arwain at ddatblygu'r 'deunydd rhyfeddol' ysgafn yn fyd-eang.'
Dyfeisiwyd graffîn dros ddegawd yn ôl, a chydnabuwyd bod ganddo'r pŵer posibl i chwyldroi popeth o sglodion cyfrifiadurol i awyrennau ysgafn iawn.
Ond mae ei ddatblygiad wedi cael ei oedi'n fasnachol yn sgil cost ac anhawster i'w gynhyrchu ar raddfa fawr.
Nawr, mae ymchwil gan Dr David Morgan o Sefydliad Catalyddu Caerdydd wedi datblygu dulliau o brofi a dadansoddi newidiadau yn y deunydd, sy'n cael ei gydnabod fel deunydd â phriodoleddau fel cryfder, hyblygrwydd a dargludedd trydanol.
Mae Dr Morgan wedi gweithio ochr yn ochr â chwmni Perpetuus o dde Cymru, i brofi nodweddion graffîn ar raddfa ddiwydiannol – y cyntaf o'i fath i'r Brifysgol.
Dywedodd Dr David Morgan, Rheolwr Dadansoddi Arwyneb yn Sefydliad Catalyddu Caerdydd: "Hyd eithaf ein gwybodaeth, dyma'r dadansoddiad cyntaf o'r fath o ddeunydd crai i ddefnydd terfynol y deunydd wedi'i brosesu. Mae datblygu graffîn a deunyddiau cysylltiedig yn faes cyffrous sy'n ehangu'n barhaus. Mae gwirio newidiadau ffisegol a chemegol y deunydd o'r dechrau i'r diwedd, a gweld yr ymgorfforiad i ddeunydd ymarferol, wedi bod yn ddiddorol iawn, ac mae'n amlygu ymhellach briodoleddau diddorol yr amryffurf carbon hwn."
Yn ddiweddar, llofnododd Perpetuus gytundeb rhagarweiniol gyda Graphene Platform Corporation yn Siapan, sy'n caniatáu i'r cwmni gynhyrchu symiau masnachol o'r deunydd "rhyfeddol" ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau diwydiannol.
Dywedodd Ian Walters, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Perpetuus: "Mae gwaith Dr David Morgan yn wirioneddol chwyldroadol. Mae beth mae ef wedi llwyddo i'w gyflawni yn wirioneddol arloesol; yr union fath o ymchwil arloesol sy'n meithrin enw da i Brifysgol Caerdydd yn rhyngwladol."