Cyrraedd y 4ydd safle am Weinyddiaeth Gyhoeddus
18 Medi 2017
Mae Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, yn 4ydd yn y byd ar restr fyd-eang ddylanwadol.
Mae Tablau Byd-eang Shanghai ar gyfer Pynciau Academaidd yn dabl cynghrair mawreddog sy’n cael ei gyhoeddi’n flynyddol ochr yn ochr â Rhestr Academaidd Shanghai o Brifysgolion y Byd.
Eleni, roedd Ysgol Fusnes Caerdydd yn y 4ydd safle, am ei haddysg a’i hysgolheictod ym maes Gweinyddiaeth Gyhoeddus, tra roedd Prifysgol Caerdydd yn y 99ain safle ar y rhestr o brifysgolion y byd.
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad ynghylch y safle ar y rhestr, dywedodd yr Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Fusnes Caerdydd: “Mae hwn yn ganlyniad ardderchog i ni, ac yn gydnabyddiaeth deilwng o'n gwaith arloesol a dylanwadol ym maes gweinyddiaeth gyhoeddus. Rydym yn addysgu llunwyr polisi’r dyfodol ac yn cynhyrchu brîd newydd o arweinwyr a rheolwr arloesol yn y sector cyhoeddus.
“Ein nod fel Ysgol yw sicrhau gwelliant economaidd yn ogystal â chymdeithasol ein cymunedau cyfansoddol a grwpiau rhanddeiliaid, yn unol â'n strategaeth flaengar o ran gwerth cyhoeddus. Un maes yn unig yw gweinyddiaeth gyhoeddus, lle yr ydym yn annog ffordd newydd o feddwl a gweithredu, gan hyrwyddo arfer busnes ac ymgysylltu sy’n fwy cyfrifol, moesegol, creadigol a thrawsnewidiol.
“Er ein bod yn dathlu'r newyddion am lwyddiant ein safle ar restr Shanghai, nid ydym yn hunanfodlon a byddwn yn parhau i weithio gyda’n cyfadran, ein myfyrwyr a phartneriaid allanol i wella a datblygu perthnasedd ac effaith ein haddysg ym maes gweinyddiaeth gyhoeddus.”
Mae rhaglen ôl-raddedig newydd, MSc mewn Arweinyddiaeth Sector Cyhoeddus, hefyd o dan ddatblygiad a bydd yn tyfu darpariaeth Gweinyddiaeth Gyhoeddus yr Ysgol ymhellach.
Mae gan Ysgol Busnes Caerdydd hanes hir o lwyddiant. Llynedd, dyfarnwyd yr Ysgol ymysg y 100 uchaf yn y byd am Fusnes ac Economeg ar restr Prifysgolion Gorau'r Byd Times Higher Education (THE) yn ôl pwnc 2016-2017 (safle 93). Yn ogystal, roedd o fewn 100 uchaf Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl pwnc, ar gyfer Busnes a Rheolaeth a Chyfrifeg a Chyllid.
Roedd yr Ysgol hefyd yn y chweched safle (allan o 101 o ysgolion busnes y DU) am ansawdd ymchwil, ac yn gyntaf am ei hamgylchedd ymchwil yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Mae’n un o ddwy ysgol yn unig sydd wedi bod yn y 10 uchaf ym mhob ymarfer ymchwil y Llywodraeth ers 1992.