Y defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau yng Nghymru
16 Ebrill 2015
Ymchwil newydd yn awgrymu bod nifer o laslanciau yn rhoi cynnig ar e-sigaréts, ond ychydig bach sy'n dod yn ddefnyddwyr rheolaidd
Canfu ymchwil gan y Brifysgol fod e-sigaréts yn boblogaidd ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau, gan gynnwys y rheiny sydd eisoes wedi ysmygu, ond mae rhai o'r rheiny sy'n rhoi cynnig arnynt yn dod yn ddefnyddwyr rheolaidd, a bod y rhan fwyaf o'r rheiny sy'n gwneud hynny yn ysmygwyr hefyd.
Cyhoeddwyd eu canfyddiadau yn y cyfnodolyn ar-lein, BMJ Open, ac mae'r ymchwilwyr o adran Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (Decipher), Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol, wedi'u seilio ar ganlyniadau dau arolwg cynrychioliadol yn genedlaethol, o blant ysgolion cynradd ac uwchradd, o dros 150 o ysgolion, a gynhaliwyd yn 2013 a 2014.
Holwyd cyfanswm o 1,601 o blant, 10-11 oed a 9,055 o blant 11-16 oed, am eu defnydd o e-sigaréts.
Roedd defnyddio e-sigaréts o leiaf unwaith yn fwy cyffredin nag ysmygu sigarét arferol ymhlith pob grŵp oedran, ar wahân i'r grŵp hynaf (15-16 oed).
Roedd oddeutu 5.8% o blant 10-11 oed wedi rhoi cynnig ar e-sigaréts, o'i gymharu ag 1.6% yn unig oedd wedi ysmygu baco, ond roedd cyfran eithaf mawr (12.3%) o blant 11-16 oed wedi dweud eu bod nhw wedi defnyddio e-sigaréts, ni waeth beth oedd eu rhyw, cefndir ethnig, neu gyfoeth eu teulu.
Mae hyn yn groes i'r patrymau a welir o ran ysmygu, lle mae'r ffactorau hyn yn berthnasol, gan awgrymu efallai fod gan e-sigaréts apêl ehangach na baco ymhlith pob sector poblogaeth pobl ifanc yn eu harddegau, meddai'r ymchwilwyr.
Yn yr un modd, cynyddodd cyfran y plant a oedd wedi defnyddio e-sigaréts, ond oedd byth wedi ysmygu, o 5.3% ymhlith plant 10-11 oed, i 8% ymhlith pobl ifanc 15-16 oed.
O'r rheiny rhwng 11 ac 16 oed, dywedodd 1.5% (125) ohonynt eu bod nhw'n defnyddio e-sigaréts yn rheolaidd – yn ôl y ddifiniad, o leiaf unwaith y mis. Roedd hyn yn cynnwys 0.3% o'r rheiny a oedd yn honni nad oeddent erioed wedi ysmygu sigaréts arferol.
Dywedodd Dr Graham Moore, a arweiniodd yr ymchwil, "Er bod arbrofi ag e-sigaréts yn dod yn gyffredin ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, mae'r ffigurau hyn yn awgrymu bod e-sigaréts yn annhebygol o wneud cyfraniad uniongyrchol mawr at fod yn gaeth i nicotin ar hyn o bryd."
Roedd y tebygolrwydd o ddefnyddio e-sigaréts yn rheolaidd 100 gwaith yn uwch ymhlith ysmygwyr wythnosol presennol nag ymhlith y plant nad oedd yn ysmygu, a 50 gwaith yn uwch ymhlith y rheiny a oedd wedi ysmygu canabis.
Mae'r berthynas gref rhwng ysmygu ar hyn o bryd a'r defnydd o e-sigaréts yn awgrymu nad yw plant yn eu harddegau yn defnyddio'r cynhyrchion hyn i'w helpu nhw i roi'r gorau i ysmygu, meddai'r ymchwilwyr.
"Er bod ein hastudiaeth wedi darparu cipolwg ar y defnydd o e-sigaréts, mae'r gwahaniaethau ar draws yr astudiaethau o ran y cwestiynau a ddefnyddiwyd i fesur e-sigaréts yn cyflwyno her ar gyfer ymchwil yn y maes hwn," ychwanegodd Dr Moore. "Dylem barhau i fonitro tueddiadau mewn defnydd pobl ifanc o e-sigaréts yn fanwl wrth i'r cynhyrchion eu hunain a'r lleoedd lle cânt eu prynu a'u gwerthu barhau i ddatblygu. Mae angen cynnal astudiaethau tymor hwy i gynnwys y genhedlaeth o bobl ifanc sydd wedi tyfu i fyny gydag e-sigaréts cyn y gellir dod i gasgliadau mwy cadarn."