Ymchwil i deithio i’r hanner marathon
15 Medi 2017

Nod trefnwyr Hanner Marathon Caerdydd, Run 4 Wales, yw lleihau ôl troed carbon y digwyddiad gyda chymorth ymchwil Prifysgol Caerdydd i arferion teithio rhedwyr a gwylwyr.
Y ras boblogaidd hon, a noddir gan Brifysgol Caerdydd, yw’r ail hanner marathon mwyaf yn y wlad ac mae’n denu oddeutu 25,000 o redwyr cofrestredig o bob cwr o’r DU.
Bydd Dr Andrea Collins o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, a’r Athro Max Munday, o’r Ysgol Busnes, yn edrych ar sut mae rhedwyr a gwylwyr yn teithio i’r digwyddiad eleni ar 1 Hydref a’r effaith economaidd.

Effaith amgylcheddol ac economaidd
“Rydym wedi ymgymryd â sawl astudiaeth sydd wedi ystyried effaith amgylcheddol ac economaidd digwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru ac mewn mannau eraill o’r DU”, dywedodd Dr Collins.
“Yn ystod Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd, byddwn yn edrych yn bennaf ar y modd mae gwylwyr a rhedwyr yn teithio i’r digwyddiad, a faint o arian maen nhw’n ei wario yn y ddinas...”

“Bydd trefnwyr y ras, Run 4 Wales, a’r Brifysgol yn gallu defnyddio canlyniadau’r ymchwil er mwyn canfod y ffyrdd y gellir annog rhedwyr a gwylwyr i deithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy. Y nod yn y pen draw yw lleihau effaith amgylcheddol y digwyddiad yn 2018.”
Fynd yn wyrdd

Dywedodd Pennaeth Marchnata a Phartneriaethau Run 4 Wales, Annabelle Mason: “Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod y digwyddiad mwyaf yng Nghymru o ran y niferoedd sy’n cymryd rhan, Hanner Marathon Caerdydd, mor gynaliadwy â phosibl...”
“Y llynedd, gwnaethom fwy nag erioed i annog rhedwyr i ‘fynd yn wyrdd’ trwy rannu ceir, beicio a, lle bo’n bosib, gerdded. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda’n partner strategol Ailgylchu dros Gymru i wneud yn siŵr bod yr holl redwyr yn gwybod beth i'w ailgylchu ar ddiwrnod y ras ac yn y cartref.”
“Gyda lwc, bydd yr ymchwil a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd yn ein helpu i wella ein hygrededd amgylcheddol, ac mae’n enghraifft arall ohonom yn gweithio’n effeithiol gyda’n partner teitl.”
Bydd tîm o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn holi gwylwyr ar ddiwrnod y ras ynghylch sut y gwnaethon nhw deithio i’r digwyddiad a faint o arian y gwnaethon nhw ei wario yn y ddinas, a chaiff arolwg ei anfon at redwyr ar ôl y ras.
Mae UK Sport wedi gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Prifysgol Caerdydd er mwyn datblygu ei declyn eventimpacts, pecyn cymorth ar-lein rhad ac am ddim, sy’n galluogi trefnwyr i werthuso effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol digwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau cymdeithasol.
Mae Dr Collins wedi diweddaru rhan amgylcheddol y teclyn yn ddiweddar, sydd bellach yn cynnwys astudiaethau achos o Rownd Derfynol Cwpan FA, Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad, Gŵyl y Gelli a cham y DU o’r Tour de France.
“Mae cydweithio â threfnwyr fel Run 4 Wales ar Hanner Marathon Caerdydd yn ein galluogi i gael mynediad i ddigwyddiadau ar garreg ein drws yn ogystal â dangos effaith ein hymchwil”, dywedodd Dr Collins.