Plant Cymru sydd â diabetes math 1 bum gwaith yn fwy tebygol o orfod mynd i'r ysbysty
14 Ebrill 2015
Data'n dangos mai plant cyn oed ysgol a'r rheini o gefndiroedd difreintiedig sydd â'r risg uchaf
Yn ôl astudiaeth newydd, mae plant yng Nghymru sy'n byw â diabetes math 1 bron bum gwaith yn fwy tebygol o orfod mynd i'r ysbyty na phlant heb ddiabetes.Mae nifer y plant sy'n cael diagnosis o ddiabetes math 1 yn cynyddu 3-4% bob blwyddyn, yn arbennig ymhlith plant oed ysgol. Mae'r driniaeth yn gymhleth, ac yn aml, gall rheolaeth wael arwain at achosion meddygol brys sy'n golygu triniaeth ysbyty. Mae hyn yn rhoi hyd yn oed mwy o alw ar wasanaethau iechyd.
I wella effeithlonrwydd y gwasanaethau hyn, ac i leihau cyfnodau diangen yn yr ysbyty, roedd ymchwilwyr am wybod pa mor aml mae plant sydd â diabetes math 1 yn cael eu derbyn i'r ysbyty o'i gymharu â phlant o'r un oedran, rhyw a dosbarth economaidd-gymdeithasol sy'n byw yn yr un ardal.
Aeth arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bryste, Prifysgol Bangor ac Ysbyty Athrofaol Cymru ati i ddadansoddi data dienw 95% o'r holl bobl ifanc yng Nghymru sydd â diabetes math 1, yn erbyn data ysbyty poblogaeth Cymru gyfan. Roedd y canfyddiadau'n dangos bod y risg o orfod cael triniaeth ysbyty 480% yn uwch i'r rheini sy'n byw â diabetes math 1 nag i bobl heb ddiabetes.
Mae'r data'n dangos bod y cyfraddau derbyn uchaf ymysg plant 0-5 oed, ac mae'r risg o driniaeth ysbyty yn gostwng 15% am bob cynnydd o bum mlynedd yn oedran plentyn adeg diagnosis. Yn gyson â chanfyddiadau astudiaeth flaenorol yn UDA, gwelwyd bod gan blant o gefndiroedd tlotach risg uwch o orfod cael triniaeth ysbyty. Roedd hyn hefyd yn wir am blant sy'n cael triniaeth fel cleifion allanol ar gyfer eu cyflwr mewn canolfan driniaeth llai o faint.
"Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod gan blant sydd â diabetes risg annerbyniol o uchel o orfod mynd i'r ysbyty," dywedodd yr Athro John W Gregory, arbenigwr mewn Endocrinoleg Bediatrig yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. "Ar sail y dystiolaeth hon, mae angen i wasanaethau clinigol edrych ar ffyrdd o gefnogi gofal y rheini sydd â'r risg uchaf: plant ifanc iawn a'r rheini o gefndiroedd tlotach. Mae'n debygol bod mwy o bryder yn gysylltiedig â materion gofal iechyd y rheini o gefndiroedd tlotach a phlant ifanc iawn, a all fynd yn sâl yn gyflymach na phlant hŷn. Mae'r rhain yn ffactorau y gellid eu haddasu o bosibl, gan ddibynnu a oes cymorth arbenigol ar gael i gefnogi plant a'u teuluoedd.
"O ystyried y risg gynyddol o dderbyn cleifion sy'n cael gofal mewn clinigau cleifion allanol llai o faint, mae angen i ni archwilio arferion gwaith hefyd, yn enwedig gwasanaethau 'tu allan i oriau', i weld a oes ffyrdd gwell o ddarparu gofal mewn ffordd sy'n osgoi'r angen i fynd i'r ysbyty. Fodd bynnag, nid yw'r cysylltiadau a ddangosir yn dangos achos ac effaith, a byddai angen astudiaeth ymyriadol i ddangos y gall adnoddau clinigol ychwanegol neu ffyrdd gwahanol o weithio leihau'r cyfraddau derbyn hyn."
Yn ôl yr ymchwilwyr, yr astudiaeth hon yw'r asesiad mwyaf cywir o'r cynnydd mewn cyfraddau derbyn i'r ysbyty a gynhaliwyd erioed. Er mwyn cyrraedd eu canfyddiadau, aeth yr ymchwilwyr ati i ddadansoddi dwy set ddata: cofrestr o 1577 o blant 0-15 oed yng Nghymru sydd â diabetes math 1, a chofnodion iechyd dienw o gronfa ddata yn Abertawe.
Y dadansoddiad hwn yw'r cyntaf o sawl un, a'r bwriad yw caniatáu i'r tîm ofyn cwestiynau sylfaenol bwysig am effeithiolrwydd y driniaeth ar gyfer plant sydd â diabetes.
Ychwanegodd yr Athro Gregory: "Mae pwysau cynyddol ar glinigwyr i fesur ansawdd y gofal clinigol a gaiff ei ddarparu i blant sydd â diabetes. Diben hyn yw gwneud yn siŵr ein bod yn osgoi gwasanaeth sy'n amrywio yn ôl cod post ac yn adnabod arferion da er mwyn eu hefelychu ledled y wlad.
"Mae hon yn ymagwedd newydd bwerus a fydd yn rhoi cyfle i ni fesur canlyniadau a fydd yn dylanwadu ar gynllun a strwythur gwasanaethau clinigol yn y dyfodol. Mae'r data'n mesur gwelliannau parhaus i ansawdd gofal diabetes pediatrig, a allai arwain at gyfraddau is o salwch a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag inswlin."
Dywedodd yr Athro Reinhard Holl, Diabetolegwr ac Endocrinolegwr Pediatrig o Brifysgol Ulm (yr Almaen):
"Mae'r astudiaeth hon yn hynod bwysig o safbwynt cleifion a'u teuluoedd, ac o safbwynt gofal iechyd. Heb os, mae'r driniaeth i blant sydd â diabetes math 1 wedi gwella dros y ddau ddegawd diwethaf, o ganlyniad i strategaethau therapiwtig newydd, a datblygiadau fferyllol a thechnegol.
"Mae'r astudiaeth yn dangos bod gwaith i'w wneud o hyd cyn i ni gyrraedd ein nod o ddarparu triniaeth sy'n amharu cyn lleied â phosibl ar fywydau plant a'u teuluoedd. Yn yr ysbyty, mae plant yn cael eu cadw o'r ysgol ac oddi wrth eu teuluoedd a'u ffrindiau – dylid osgoi hyn ar bob cyfrif os oes modd. Yn ogystal, mae'r costau i'r system gofal iechyd yn uchel, sef arian y dylid ei fuddsoddi i wella prosesau parhaus i reoli cleifion allanol ac i wella'r gefnogaeth deuluol i'r rhai yr effeithir arnynt."
Ariannwyd yr ymchwil gan NovoNordisk a Llywodraeth Cymru.
,1�S