Bryngaer Gudd yn cysylltu pobl â'r gorffennol
14 Medi 2017
![Staff and stakeholders around information sign](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0012/928965/Staff-and-stakeholders-around-infromation-sign.png?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae prosiect cymunedol sylweddol newydd i drawsnewid maestref sy'n fywiog ond yn wynebu heriau economaidd yn ne Cymru wedi cael ei lansio'n swyddogol.
Mae prosiect Bryngaer Gudd CAER yn fenter a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF) rhwng Gweithredu yng Nghaerau a Threlái a Phrifysgol Caerdydd.
Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar fryngaer Caerau – un o henebion pwysicaf a hynaf Caerdydd – sydd â hanes rhyfeddol.
Drwy grant cyfnod datblygu Cronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd y tîm yn gweithio ar amrywiaeth o gynigion er mwyn rhoi i'r gymuned well dealltwriaeth o'u treftadaeth a gorffennol diddorol yr ardal, yn ogystal â rhoi cyfle i bobl leol ddysgu sgiliau newydd, a meithrin hyder a chydlyniant cymunedol.
Hanes anhygoel
Mae'r cynlluniau yn cynnwys gweithio gyda thrigolion i droi neuadd efengylu nad yw’n cael ei defnyddio bellach yn ganolfan dreftadaeth yng ngofal y gymuned leol, gwella mynediad i’r fryngaer a llunio a gosod arwyddion a gwybodaeth newydd, fel bod pobl leol ac ymwelwyr yn gallu dysgu am hanes anhygoel yr ardal.
![Dr Oliver Davis, CAER Heritage Project Co-director](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/929411/Dr-Oliver-Davis,-CAER-Heritage-Project-Co-director.png?w=575&ar=16:9)
Cafodd dechrau'r prosiect un flwyddyn ei nodi gan Mark Drakeford AC, ar gyfer Caerau a Threlái, ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan. Os yw'n llwyddiannus, bydd y prosiect un flwyddyn yn arwain at ragor o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiect dwy flynedd.
Dywedodd Dr Dave Wyatt, cyd-gyfarwyddwr Prosiect CAER: “Mae gwaith cloddi gan y gymuned wedi dangos bod bryngaer Caerau yn safle treftadaeth o arwyddocâd cenedlaethol, os nad rhyngwladol, ac eto nid oes dealltwriaeth dda ohono, ac mae’n dal yn anhysbys i raddau helaeth...”
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0012/2497899/73093-1613051637362.jpeg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Mae posibilrwydd y gall y Prosiect Bryngaer Gudd newid hyn; gan agor y man anhygoel hwn i fyny i'r byd ehangach a harneisio grym treftadaeth er mwyn gwella cyfleoedd bywyd unigol pobl leol o bob oedran.”
![Crowd on CAER hillfort site](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1279637/DefaultLogo.png?w=575&ar=16:9)
Dywedodd Dave Horton, Rheolwr Datblygu yn ACE: “Rydyn ni'n gyffrous dros ben bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi rhoi’r cyfle yma i ni.
“Os bydd yn llwyddiannus, mae’r prosiect llawn yn cynnig rhaglen o ymchwil gymunedol, cyflwyno’r heneb a datblygu seilwaith.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth agos â Phrifysgol Caerdydd, ysgolion lleol, a sefydliadau treftadaeth i fanteisio ar alluoedd pobl leol er mwyn newid sut caiff treftadaeth bryngaer Caerau ei deall a'i gwerthfawrogi.”