Ewch i’r prif gynnwys

Blas o Japan yn dod i Gaerdydd ar gyfer dysgwyr iaith ifanc

10 Gorffennaf 2017

Students at the Taste of Japanese event

Ymwelodd disgyblion ysgol o bob cwr o Gymru â Phrifysgol Caerdydd y mis hwn i ddysgu mwy am iaith a diwylliant Japan.

Croesawodd yr Ysgol Ieithoedd Modern dros 70 o egin ieithyddion i ddigwyddiad 'Blas o Japan’ ar 6 Gorffennaf.

Trefnwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar y cyd gan yr Ysgol a chronfa rhwydwaith Japan Foundation Sakura, i godi ymwybyddiaeth o'r iaith ac i dynnu sylw at elfennau o ddiwylliant cyfareddol Japan.

Dechreuodd y diwrnod gyda sgwrs groeso a oedd yn esbonio sut beth yw dysgu Japaneeg yn y brifysgol. Dilynwyd hyn gan sesiynau blasu ymarferol lle roedd disgyblion yn cael cipolwg o ddosbarth iaith yn yr Ysgol.

Origami workshop

Yn dilyn eu cyflwyniad academaidd, aeth y disgyblion i arddangosiad Kendo, cymryd rhan mewn sesiynau blasu bwyd o Japan a chael y cyfle i ddysgu am arlunio manga,  origami, caligraffi Japaneaidd, anime a’r offeryn Japaneaidd traddodiadol, y Koto.

Dywedodd Dr Miho Inaba, darlithydd mewn Japaneeg a threfnydd y digwyddiad, "Roedd yn wych gweld brwdfrydedd y disgyblion ysgol dros Japaneeg. Hwn oedd y tro cyntaf i nifer o’r disgyblion glywed yr iaith yn cael ei siarad mewn bywyd go iawn ac roeddent yn llawn cyffro i ddysgu mwy am ddiwylliant Japan o ganlyniad. Rydym ni’n gobeithio mai’r digwyddiad hwn yw’r cyntaf o lawer i godi ymwybyddiaeth o iaith sy’n gallu agor drysau i fyfyrwyr sy'n dymuno gweithio yn rhyngwladol, a hynny mewn amrywiaeth o yrfaoedd a sectorau cyffrous."

Mae’n bosibl astudio Japaneeg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ochr yn ochr â nifer o ieithoedd a phynciau eraill. I ddarganfod mwy, ewch i Coursefinder i weld y rhestr lawn o opsiynau.

Rhannu’r stori hon