Gallai Morlyn Llanw Caerdydd 'bweru pob cartref yng Nghymru,' yn ôl Prif Weithredwr
7 Medi 2017
Defnyddiodd Mark Shorrock, Prif Weithredwr Tidal Lagoon Power, ddigwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd i amlinellu bwriad ei gwmni i fanteisio ar ynni Aber Afon Hafren.
Wrth siarad â byd diwydiant, academyddion a chynrychiolwyr y llywodraeth, esboniodd yr entrepreneur ynni sut gallai Tidal Lagoon Power hefyd greu marchnad allforio gwerth miliynau ar gyfer tyrbinau a generaduron a gynhyrchir yng ngwledydd Prydain, ynghyd ag arbenigedd ym maes technoleg a pheirianneg.
Mae cynnig i adeiladu'r morlyn llanw cyntaf ym Mae Abertawe. Mae Tidal Lagoon Power yn credu y gallai'r prosiect £1.3bn ddiwallu anghenion trydan blynyddol 90% o'r cartrefi yn yr ardal.
Mae'r cwmni'n dadlau y byddai morlyn llanw mwy fyth yn cynhyrchu tua deng gwaith mwy o bŵer, gydag allbwn blynyddol posibl o tua 5.5TWh – sy'n cyfateb i anghenion trydan blynyddol pob cartref yng Nghymru.
Dywedodd Mark Shorrock: "Mae ein gweledigaeth yn dechrau ym Mae Abertawe, gyda morlyn llanw cyntaf y byd. Cafwyd caniatâd ar gyfer y prosiect ym mis Mehefin 2015, ac mae ar flaen y gad mewn diwydiant byd-eang newydd fydd â'i ganolbwynt yma yn Ne Cymru..."
Yn ôl Tidal Lagoon Power, bydd y prosiect yn cynnwys £8 biliwn o gyfalaf preifat a gallai greu a chynnal dros 8,000 o swyddi gweithgynhyrchu yng Nghymru a’r DU yn rhan o gadwyn gyflenwi’r prosiect.
Bydd y morlyn llanw yn amgáu rhan o'r arfordir y tu ôl i strwythur dynol, ac yn defnyddio codiad a chwymp y llanw i gynhyrchu trydan. Mae'r strwythur yn creu gwahaniaeth mewn lefel y dŵr rhwng y môr a'r ardal y tu mewn i'r morlyn.
Pan fydd y gwahaniaeth uchder ar y lefel ddelfrydol, mae'r strwythur yn gadael y dŵr i lifo i mewn i'r morlyn, gan droi'r tyrbinau sy'n cynhyrchu ynni. Gellir ailadrodd y broses bedair gwaith bob 24 awr: dwywaith pan ddaw'r llanw i mewn, a dwywaith pan â'r llanw allan.
Drwy amgáu tua 70km2 o'r aber, yn ôl Tidal Lagoon Power byddai'r prosiect yn gallu pasio dros 2 miliwn m3 o ddŵr drwy ei dyrbinau ym mhob cylchred llanw, mwy nag 800 gwaith y dŵr sydd ar gael i'r prosiect arloesol ym Mae Abertawe.
Trefnir y noswaith gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, sydd wedi hyrwyddo rhyngweithio rhwng byd busnes a’r Brifysgol am dros ddau ddegawd.