Chwilio am gyn-fyfyrwyr wrth i'r cwrs cyfraith feddygol gyrraedd 30 oed
6 Medi 2017
Mae'r chwilio wedi dechrau am gyn-fyfyrwyr a fu'n astudio cwrs Agweddau Cyfreithiol ar Ymarfer Meddygol Ysgol y Gyfraith Caerdydd dros y 30 mlynedd ddiwethaf.
Mae dros 500 o bobl - llawer ohonynt bellach yn weithwyr cyfreithiol ac iechyd proffesiynol blaenllaw - wedi dilyn rhaglen Meistr LLM Prifysgol Caerdydd.
Bydd cyn-batholegydd y Swyddfa Gartref, yr Athro Bernard Knight, a Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, yn ymuno â chyn-fyfyrwyr a staff am ginio pen-blwydd 30 mlynedd ar 23 Medi.
Mae'r Athro Vivienne Harpwood, a sefydlodd y cwrs yn 1987, yn apelio ar gyn-fyfyrwyr i gysylltu.
“Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i fod yn uwch ymarferwyr meddygol, bargyfreithwyr, rheolwyr y GIG, ac yn gweithio ar draws llu o broffesiynau," dywedodd Cyn-gyfarwyddwr y Cwrs.
“Er ein bod ni wedi cadw cyswllt â llawer, mae rhai wedi newid swyddi, symud dramor neu newid cyfeiriad ebost, ac rydym ni wedi colli'r cysylltiad...”
Dywedodd yr Athro Dr Stephen Smith , Cyfarwyddwr y Cwrs: “Rydym ni'n cynnig cyfle i gyn-fyfyrwyr loywi eu gwybodaeth gyfreithiol yn ystod y dydd cyn y digwyddiad gyda'r nos. Mae materion meddygol-gyfreithiol fel penderfyniadau diwedd oes, esgeulustod clinigol, cydsynio i driniaeth a dyfodol cyfraith yr UE ym Mhrydain ôl-Brexit yn parhau i fod yn rhai o'r pynciau mwyaf llosg sy'n wynebu gweithwyr iechyd a chyfreithiol proffesiynol y DU.”
Yr Athro Bernard Knight CBE, nofelydd nodedig a chyn-batholegydd blaenllaw i'r Swyddfa Gartref, fydd yn siarad ar ôl y cinio.
Roedd ei angerdd dros faterion meddygol-gyfreithiol yn amlwg iawn wrth sefydlu'r cwrs.
Dywedodd yr Athro Knight: “Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, ychydig iawn o gyrsiau rhan amser wedi'u teilwra'n broffesiynol oedd ar gael a allai gynnig dealltwriaeth i weithwyr meddygol proffesiynol ynghylch materion meddygol-gyfreithiol oedd yn newid yn gyflym. Ers hynny, mae cleifion yn fwy ymwybodol o'u hawliau, mae strwythur cyflenwi gofal iechyd llawer yn fwy cymhleth, a cheir llu o gwestiynau ynghylch atebolrwydd cyfreithiol, sy'n golygu bod y cwrs hwn hyd yn oed yn fwy angenrheidiol heddiw nag yr oedd dair degawd yn ôl.”
Cynhelir y rhaglen pen-blwydd gan Ganolfan Cyfraith Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Brifysgol, a bydd yn cynnwys cwrs gloywi undydd yn edrych ar y tirlun meddygol-gyfreithiol.