Plismona cyfathrebu yw'r plismona bro newydd
4 Medi 2017
Mae ymchwil cydweithredol rhwng academyddion Prifysgol Caerdydd a'r heddlu wedi canfod bod dulliau plismona dadansoddeg cyfryngau cymdeithasol yn y DU ar hyn o bryd yn dameidiog ac yn ei chael yn anodd ymdopi â datblygiadau technegol a'u heffeithiau cymdeithasol aflonyddus.
Cyllidwyd y Ganolfan Ymchwil Dadansoddeg Cyfathrebu Ffynhonnell Agored (OSCAR) dan arweiniad Prifysgol Caerdydd drwy Gronfa Gwybodaeth yr Heddlu gan y Coleg Plismona a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr, i edrych sut mae gwasanaeth yr heddlu'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol a ‘thechnolegau data mawr’.
Ddata mawr
Roedd y gwaith yn edrych ar y ffordd mae cyfryngau cymdeithasol a mathau eraill o 'ddata mawr' sydd ar gael yn gyhoeddus yn newid: sut mae'r heddlu'n ymchwilio i droseddau a digwyddiadau critigol; eu dulliau datblygu deallusrwydd; a dulliau ymgysylltu â chymunedau. Yn bwysig, ac yn wahanol i ymchwil blaenorol yn y maes hwn, mabwysiadodd agwedd gyfannol a chynhwysfawr, gan ymchwilio'r effeithiau hyn ar draws ystod gyfan disgyblaethau plismona gan gynnwys; Gwrthderfysgaeth; troseddu trefnedig difrifol; trefn gyhoeddus; a Phlismona Bro. Ail elfen arloesol y dull gweithredu hwn oedd ei fod yn cael ei wneud ar y cyd gan ymchwilwyr academaidd yn cydweithio'n uniongyrchol gyda swyddogion yr heddlu, i ddatblygu dealltwriaeth unigryw o'r elfen hon o blismona.
- Mae gormod o sylw wedi'i roi'n genedlaethol i brynu technolegau 'data mawr' cynyddol soffistigedig a dim digon ar ddatblygu sgiliau dadansoddwyr a defnyddwyr mewn sefydliadau heddlu.
- Yn genedlaethol, mae'r dull yn dameidiog gyda gwahanol asiantaethau a heddluoedd yn mabwysiadu dulliau gwahanol iawn. Does dim consensws i'w weld ynghylch faint o'r gwaith hwn sy'n 'gyffredinol' a faint ddylai fod yn 'arbenigol'.
- Plismona cyfathrebu yw'r plismona bro newydd, a dylid ei drin felly, i adlewyrchu'r elfen ddigidol gynyddol sydd ynghlwm â bywyd cymdeithasol.
- Dim ond cyfran gymharol fach o swyddogion a staff yr heddlu sydd â'r sgiliau digidol a'r offerynnau sydd eu hangen i fanteisio ar y cyfleoedd ar gyfer gwybodaeth ddigidol a'r dystiolaeth i lywio eu hymchwiliadau a'u hymholiadau.
- Dylai cyrff heddlu geisio recriwtio gwyddonwyr data o fewn eu gweithlu, i alluogi ffyrdd newydd o weithio yn yr oes wybodaeth.
- Yn genedlaethol, ceir 'bwlch ymchwil a datblygu' yn y ffordd mae’r heddlu'n datblygu'r offerynnau a'r technegau sydd eu hangen i gadw'n gyfredol gyda'r datblygiadau cyflym mewn technolegau cyfryngau cymdeithasol.
Elfen bwysig o ddull OSCAR oedd cynnal yr ymchwil academaidd yn ystod cyrchoedd heddlu byw, a thrwy hynny sbarduno ymchwiliad gwrthderfysgaeth newydd. Dangosodd hyn sut gall mabwysiadu dulliau arloesol o weithio helpu i wella'r modd y caiff gwasanaethau eu cyflenwi i'r cyhoedd, a hefyd gwella sgiliau a hyfforddiant yr heddlu mewn meysydd newydd yn eu hymarfer. Mae gwaith y rhaglen wedi bod yn ddylanwadol yn rhyngwladol, gyda chyflwyniadau ar y gwaith i: Adran Diogelwch Cartref UDA; NATO ac Europol.
Arbed arian sylweddol i'r trethdalwr
Gan son am werth a manteision dull arloesol OSCAR, dywedodd yr Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Ffynhonnell Agored a Digidol ar gyfer plismona gwrth-derfysgol: “Un o’r darnau pwysicaf o waith oedd adolygu’r ffyrdd o weithio gydag ymarferwyr ffynhonnell agored. Mae hyn wedi’n galluogi ni i wella ein rhaglenni hyfforddi a newid sut rydym yn meddwl am gyflogi staff. Mae OSCAR wedi arbed arian sylweddol i'r trethdalwr drwy ein helpu yn y meysydd hyn.”
Dywedodd yr Athro Martin Innes, arweinydd Canolfan OSCAR: “Mae'n amlwg fod y cyfryngau cymdeithasol a thechnolegau cysylltiedig yn cael effaith drawsnewidiol ar y ffordd mae'r holl asiantaethau cyhoeddus yn cyflenwi eu gwasanaethau...”
Gorau posibl i’r cyhoedd
Yn ôl Dr Nicky Miller, Rheolwr Partneriaethau Tystiolaeth Ymchwil yn y Coleg Plismona: “Dyma ddarn pwysig o waith ymchwil sy’n edrych ar sut gall heddluoedd ddefnyddio technoleg a'r cyfryngau cymdeithasol i barhau i gadw’r cyhoedd yn ddiogel yn y dyfodol.
“Cronfa Wybodaeth yr Heddlu a alluogodd y prosiect, ac mae’n braf gweld heddluoedd ac academyddion yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn datblygu a gwella'r gwasanaeth.
“Rydym yn cydnabod bod natur y galw ar wasanaeth yr heddlu wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'n hanfodol ein bod yn gwneud yn siŵr bod gan swyddogion y sgiliau digidol a’r hyfforddiant angenrheidiol i allu ymateb i’r her a rhoi’r gwasanaeth gorau posibl i’r cyhoedd.”
“Mae’r Coleg yn addysgu’r sgiliau sydd eu hangen i ymchwilio i droseddau sydd ag elfen ddigidol. Yn ogystal â pharatoi llawlyfr am ymchwilio i seiber-droseddau, rydym wedi hyfforddi 1,700 o ymchwilwyr cyfryngau digidol hyd yma. Yn y tymor hwy, bydd camau sy’n helpu plismona i ddatblygu fel proffesiwn yn gallu helpu swyddogion a staff i ymateb yn fwy hyblyg i alw sy’n newid.”