Troi ymchwil lipidau'n gyffuriau newydd
1 Medi 2017
Mae lipid y cafodd ei weithgarwch gwrth-lidiol ei ddarganfod gan Brifysgol Caerdydd, gyda chydweithwyr o Brifysgolion Pittsburgh, Oregon a Michigan, yn cael ei ddatblygu'n gyffur newydd ar gyfer trin clefydau nad oes llawer o opsiynau therapiwtig ar eu cyfer ar hyn o bryd.
Canfu astudiaeth fanwl o'r lipid gan grwpiau'r Athro Valerie O'Donnell (Prifysgol Caerdydd) a Bruce Freeman (Prifysgol Pittsburgh) ei fod yn gallu lleihau llid mewn celloedd gwaed sy'n cylchredeg, sy'n golygu ei fod yn addas iawn i'w ddatblygu'n gyffur ar gyfer sawl clefyd llidiol.
Mae'r cyffur newydd – CFA-10 – sydd bellach wedi'i drwyddedu i'r cwmni biofferyllol Complexa, newydd gael $62m o gyllid i gychwyn yr ail gam o'r treialon clinigol, lle bydd yn cael ei brofi ar gleifion gyda FSGC (clefyd anghyffredin sy'n ymosod ar yr arennau) a phwysedd gwaed uchel ysgyfeiniol rhydwelïol (clefyd sy'n gwaethygu a achosir gan broses lle mae'r rhydwelïau ysgyfeiniol yn culhau).
Dywedodd yr Athro Valerie O'Donnell, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau ym Mhrifysgol Caerdydd: "Ar ôl darganfod bod gan y nitrolipid hwn weithgarwch gwrth-lidiol grymus, mae'r wybodaeth hon bellach yn cael ei defnyddio i ddatblygu therapïau a allai gwneud llawer i wella bywydau pobl â chlefydau sy'n peryglu eu bywyd."
Ychwanegodd Josh Tarnoff, Llywydd a Phrif Weithredwr Complexa: "Rydym eisoes wedi gweld bod CXA-10 yn cael effaith ar glefydau mewn profion cyn-glinigol, a bod ganddo lawer o botensial i wneud yr un peth mewn clefydau llidiol fel FSGS a PAH – yn aml nid yw cleifion â'r clefydau hyn yn ymateb i'r triniaethau sydd eisoes ar gael."
Clefyd anghyffredin yw FSGS sy'n arwain at greithiau yn yr aren, yn lleihau gweithrediad yr arennau, ac yn achosi'r rhan fwyaf o'r dioddefwyr i ddatblygu clefyd arennol cyfnod terfynol. Pan fydd angen dialysis, dim ond wyth mlynedd yw'r disgwyliad oes ar gyfartaledd. Ar hyn o bryd nid oes opsiynau therapiwtig cymeradwy ar gyfer cleifion FSGS, sy'n aml yn wynebu cyfnodau hir o gymryd steroidau mewn dos uchel heb ymateb. Mae CXA-10 yn cael ei ymchwilio fel cyfrwng arbed steroidau mewn cleifion sydd wedi cael diagnosis diweddar.
Caiff pwysedd gwaed uchel ysgyfeiniol rhydwelïol ei achosi gan newidiadau i'r rhydwelïau ysgyfeiniol – y pibellau gwaed sy'n cludo gwaed o'r galon i'r ysgyfaint. Mae waliau'r rhydwelïau'n mynd yn drwchus ac yn anhyblyg, sy'n lleihau'r lle ar gyfer gwaed ac yn cynyddu pwysedd gwaed. Golyga'r clefyd fod cleifion yn methu gwneud ymarfer corff, ac mae'n arwain at ddiffyg anadl a methiant y galon. Yn y DU, mae rhwng 6,000 a 7,000 o bobl â phwysedd gwaed uchel ysgyfeiniol. Credir fod mwy o bobl yn dioddef o'r clefyd sydd heb gael diagnosis.