Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol 2017
31 Awst 2017
Mae Darlithydd Clinigol blaenllaw yn y Brifysgol ac Ymgynghorydd Mygedol mewn Iechyd Cyhoeddus wedi derbyn gwobr bwysig sy'n cydnabod ei heffaith ar ddysgu myfyrwyr a'r proffesiwn addysgu.
Mae Dr Ilona Johnson o'r Ysgol Deintyddiaeth wedi sicrhau Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol gan yr Academi Addysg Uwch i gydnabod ei chyflawniadau rhagorol mewn dysgu ac addysgu.
Dywedodd Pennaeth yr YSgol Deintyddiaeth, yr Athro Alastair Sloan "Mae hon yn wobr haeddiannol iawn ac mae'n adlewyrchu cyfraniad rhagorol Ilona i addysg ddeintyddol a gofal iechyd.
"Rwyf i'n hynod o falch o'i llwyddiannau, sydd nid yn unig wedi cael eu cydnabod yn genedlaethol, ond sydd hefyd yn parhau i sicrhau bod gan yr Ysgol raglenni arloesol, ysbrydoledig ac adfyfyriol i ddarparu'r profiad addysgol gorau i'n myfyrwyr er mwyn iddynt allu rhagori."
Cydnabyddir Dr Johnson yn eang am ansawdd ei haddysgu a'i hagwedd arloesol at ddysgu - yn enwedig ei defnydd o amlgyfryngau, technoleg a dulliau addysgu newydd.
Fel Dirprwy Gyfarwyddwr Asesu, mae hefyd wedi cyflwyno dulliau newydd ar gyfer gosod safonau a sicrhau ansawdd ac yn 2015 llwyddodd i ennill Gwobr Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr fel yr Aelod Staff Mwyaf Arloesol.
Dr Johnson yw'r wythfed academydd yn unig o ysgol ddeintyddol yn y DU i ddal Cymrodoriaeth o'r fath ac mae'n ymuno a'r Athro Shelia Oliver fel yr ail Gymrawd Addysgu Cenedlaethol yn yr Ysgol Deintyddiaeth.
Ychwanegodd yr Athro Shelia Oliver o'r Ysgol Deintyddiaeth sydd hefyd yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol : "RWyf i wrth fy modd i glywed bod Ilona wedi'i hanrhydeddu gyda dyfarnu'r Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol iddi gan yr Academi Addysg Uwch.
"Mae Ilona'n addysgwr wirioneddol angerddol ac arloesol ac rwyf i wedi gweld effaith wirioneddol ei hymrwymiad i wella ansawdd addysgu a phrofiad y myfyriwr ar lefel israddedig ac ol-raddedig.
"Does dim dwywaith fod Ilona'n addysgwr ysbrydoledig i'n hathrawon, ac, wrth gwrs, i'n myfyrwyr eithriadol. Mae hwn yn ddyfarniad clodfawr a roddi'r i'r rheini sy'n dangos rhagoriaeth ar draws ehangder addysg, ac mae Ilona'n ei haeddu.
"Rwyf i'n hyderus y bydd Ilona'n gallu defnyddio'r dyfarniad hwn a chynrychioli'r Academi Addysg Uwch i gyfoethogi addysg ymhellach, yn genedlaethol ac yn rhygnwladol."
Caiff y Cynllun Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol ei redeg gan yr Academi Addysg Uwch.
Caiff Cymrodyr Addysg Cenedlaethol eu dewis o blith y tair cenedl sy'n cyfranogi, Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ar draws grwpiau cenhadaeth ac o amrywiaeth eang o feysydd pwnc.
Wrth son am ei dyfarniad dywedodd Dr Johnson: "Mae'n anrhydedd rhyfeddol i dderbyn y dyfarniad hwn. Rwyf i'n angerddol dros addysgu a chynorthwyo ein myfyrwyr i gyflawni eu potensial.
"I fi, mae'r dyfarniad yn dyst i'r gwaith a brwdfrydedd nifer fawr o staff sy'n gweithio'n barhaus i wella ansawdd yr addysgu.
"Rwyf i'n ffodus i weitho gyda chynifer o bobl wych sydd wedi cytuno'n ddewr i ganiatau i fi roi cynnig ar rywbeth newydd neu weithio ychydig yn wahanol i wella addysgu a dysgu.
"Rwyf yn ei theimlo'n fraint i gael cefnogaeth ac anogaeth cydweithwyr yn fy Ysgol a'r Brifysgol ac, wrth gwrs, fy nheulu. Rwyf i hefyd yn ffodus iawn i gael gweitho gyda chynifer o fyfyrwyr eithriadol a brwdfrydig sydd yn barod i ddysgu a hefyd yn barod i helpu i siapio eu haddysgu.
"Ar lefel bersonol bydd y Gymrodoriaeth yn fy ngalluogi i ddatblygu ymhellach. Rwyf i wedi gweld drosof fy hun sut mae'r Athro Oliver, a gydnabuwyd yn flaenorol yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol, yn ysbrydoli eraill i wella addysg.
"Bwriadaf ddilyn ei hesiampl, gan annog eraill i ddilyn eu hangerdd dros addysg."
Wrth sicrhau'r dyfarniad, bydd gan bob Cymrawd rol i gynorthwyo a chyfoethogi dysgu ac addysgu yn y sefydliad a'r sector.
Bydd Dr Johnson yn derbyn ei Chymrodoriaeth mewn seremoni yn Llundain ar 1 Tachwedd.