Ffiesta Ffuglen yn denu awduron rhyngwladol i Gymru
2 Ebrill 2015
Pedwerydd digwyddiad Ffiesta Ffuglen yn denu awduron o Fecsico i Ganolfan Mileniwm Cymru
Bydd y Ffiesta Ffuglen yn denu awduron rhyngwladol i Gymru mewn dau ddigwyddiad olynol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, trwy gefnogaeth y Brifysgol a'r Cyngor Prydeinig [17 Ebrill 2015].
Mecsico yw gwlad wadd Ffair Lyfrau Llundain eleni, ac mae'r Ffiesta Ffuglen wedi uno â Wales PEN Cymru i ddathlu trwy gynnal noson gyffrous o ddarlleniadau a thrafodaeth gyda dau o awduron blaenllaw Mecsico, yn ogystal ag awduron o Gymru a'r Alban.
Yn rhan gyntaf y noson, bydd y bardd, yr awdur a'r dramodydd o Gymru, Owen Sheers, yn cynnal sgwrs gyda'r nofelydd a'r awdur straeon byr, Juan Villoro, a'r awdures o Gymru, Francesca Rhydderch.
Bydd yr awdur a'r bardd o Gymru, Richard Gwyn, yn cyflwyno'r bardd o Fecsico, Pedro Serrano, ynghyd ag WN Herbert o'r Alban, yn yr ail sesiwn.
Mae sefydlydd y Ffiesta Ffuglen, Cyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Caerdydd, Richard Gwyn, yn gyffrous am y gymysgedd o awduron: "Mae'n wych i ni yng Nghaerdydd allu clywed gan ddau o awduron mwyaf blaenllaw Mecsico, un ohonynt yn fardd a chyfieithydd dylanwadol, a'r llall yn nofelydd ac awdur straeon byr (yn ogystal â bod yn un o awduron mwyaf poblogaidd America Ladin ar bêl-droed, cerddoriaeth roc a'r sinema). Dyma ddigwyddiad cyntaf y bartneriaeth newydd rhwng Ffiesta Ffuglen a Wales PEN Cymru i ddod ag awduron cyffrous o bob cwr o'r byd i rannu eu gwaith â chynulleidfaoedd lleol."
Mae'r Ffiesta Ffuglen, sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, yn ŵyl sy'n ymroddedig i ddathlu barddoniaeth wedi'i chyfieithu a ffuglen ryngwladol, ynghyd â gwaith ysgrifenedig o Gymru.
Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim a gynhelir ar 17 Ebrill 2015 [5pm - 8pm, Ystafell Preseli, Canolfan Mileniwm Cymru] yn bosibl trwy gymorth y Cyngor Prydeinig ac Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.
I gael mwy o fanylion, ewch i http://events.caerdydd.ac.uk/view/fiction-fiesta-2/
Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ond dylid trefnu lle trwy anfon neges e-bost at walespencymru@gmail.com