Bwystfilod gwych a pham mae angen eu gwarchod
24 Awst 2017
Mae ymchwilwyr wedi rhybuddio bod angen i'r maes cadwraeth ystyried o ddifrif sut y gall credu mewn creaduriaid hudol gael effaith ar warchod bioamrywiaeth.
Yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Leeds, gallai’r maes cadw rhywogaethau dan fygythiad elwa’n sylweddol o gydnabod credoau ysbrydol, hudol a diwylliannol pobl.
Mae'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Oryx, yn tynnu ar enghreifftiau o wledydd gan gynnwys Madagasgar, Gwlad yr Iâ, yr Alban, Ethiopia a Tanzania, gan roi darlun cadarnhaol a negyddol o effaith creaduriaid chwedlonol ar gadwraeth.
Dywedodd y prif awdur, Dr George Holmes, o Ysgol Gwyddorau a'r Amgylchedd Prifysgol Leeds: “Mae'n anodd rhagweld sut y gall creaduriaid hudol gael effaith ar nodau cadwraeth. Ceir enghreifftiau o chwedlau ac ofergoelion yn cael effaith niweidiol ar oroesiad rhywogaethau penodol, ac mae enghreifftiau hefyd o sut maen nhw wedi helpu rhai rhywogaethau i oroesi.
“Ar hyn o bryd, mae safbwyntiau ym maes cadwraeth ynghylch anifeiliaid hudol yn annigonol, gan nad ydynt yn trin credoau nac ymddygiad sy'n afresymol yn ôl rhai...”
Creaduriaid hudol yn helpu cadwraeth
Mae'r papur yn cyfeirio at greaduriaid hudol, sy'n gallu bod yn 'ambarél anweledig' o rywogaethau. Maent yn amddiffyn creaduriaid go iawn, ac yn byw yn yr un cynefinoedd. Yn 2013, cafwyd achos llys yn ymladd yn erbyn priffordd arfaethedig newydd yng Ngwlad yr Iâ oherwydd y byddai'n croesi cynefinoedd rhywogaethau gwerthfawr - coblynnod Gwlad yr Iâ, neu’r Huldufólk.
Yn 2015, bu i 350,000 o bobl ymweld â safle eco-dwristaidd llewyrchus yn yr Alban, oherwydd bod anifail prin ac endemig yn byw yno - Bwystfil Loch Ness. Mae'r creadur chwedlonol hwn wedi helpu i greu incwm ar gyfer cadw a rheoli'r ardal, yn ogystal ag ychwanegu gwerth economaidd sylweddol i'r rhanbarth.
Yn Ethiopia, caiff udfilod brych eu goddef gan bobl ac mewn rhai ardaloedd, cânt eu bwydo â llaw hyd yn oed. Credir eu bod yn casglu ysbrydion drwg gyda'u chwerthin uchel, a bod ganddynt rôl o ran cael gwared ar lysysyddion sy'n bwyta cnwd cyn iddynt gyrraedd. Mae'r niferoedd sy'n gweld udfilod brych wedi gostwng mewn rhai ardaloedd, yn enwedig ger ardaloedd trefol sy'n tyfu. O ganlyniad, mae'r credoau hyn wedi helpu i gefnogi eu poblogaethau.
Dywedodd y cyd-awdur, Dr Thomas Smith o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: “Mae gwir angen inni agor y drafodaeth ynghylch sut y gall bwystfilod gwych effeithio ar ein gallu i warchod y byd naturiol, oherwydd nid oes achosion syml i gael...”
“Mae angen gwneud mwy o waith ymchwil i effaith creaduriaid hudol ar gadwraeth a phobl leol os ydynt am warchod y rhywogaethau sydd mewn perygl yn effeithiol.”
Gwlad hudol Madagasgar
Mae'r astudiaeth hefyd yn trafod Madagasgar, lle caiff credoau ysbrydol ynghylch anifeiliaid hudol a chwedlonol eu cysylltu'n aml â thabŵs lleol – a elwir yn fadys – ac maent yn rhan bwysig o ddiwylliant Malagasy.
Gall y tabŵs hyn arwain at ddiogelu rhywogaethau, ac mae prosiectau cadwraeth sy'n ceisio atgyfnerthu'r credoau lleol hyn wedi eu hannog. Caiff y tabŵs yn aml eu hyrwyddo er mwyn dangos sut y gall gwaith cadwraeth gyd-fynd â thraddodiad, ac maent wedi'u cysylltu â'r lefel isel o achosion hanesyddol o hela anifeiliaid gwyllt ar gyfer cig ym Madasgasgar.
Mae un fady wedi'i hyrwyddo'n benodol er mwyn atal math arbennig o grwban pelydrog sydd mewn perygl rhag diflannu'n llwyr. Oherwydd eu bod yn ofni cael eu dial arnynt gan ysbrydion, mae pobl leol Malagasy yn gwrthod eu niweidio, a'u cyfwrdd mewn rhai achosion. Fodd bynnag, ni fyddai'r trigolion lleol yn atal 'bobl o'r tu allan' rhag eu niweidio neu gael gwared ar y crwbanod, gan nad oeddynt wedi'u rhwymo gan reolau lleol. Mae hyn yn dangos yr heriau sy’n gysylltiedig â deall yn llawn yr effaith y gall credoau hudol gael ar gadwraeth rhywogaethau.
Mae'r astudiaeth hefyd yn disgrifio achosion ym Madagasgar lle mae'r fadys yn arwain at erlid rhai anifeiliaid penodol. Credir bod yr aye-aye yn arwydd drwg, ac os bydd yn cael ei weld, mae hyn yn rhagfynegi y bydd rhywun yn y pentref yn marw neu'n mynd yn sâl. Mae rhai yn credu bod yr aye-aye yn sleifio i dai ac yn llofruddio'r bobl sy'n cysgu yno. Gwneir hyn drwy ddefnyddio'r bysedd canol hir sydd ganddynt er mwyn rhoi twll yn aorta'r person. Er mwyn atal unrhyw lwc ddrwg, mae'r tabŵ lleol yn dweud bod yn rhaid lladd aye-ayes a'u harddangos ar bolion wrth ymyl y ffordd.
Mae'r Undeb Ryngwladol dros Gadwraeth Rhestr Goch Natur yn rhestru'r fady sy'n ymwneud â lladd aye-ayes fel bygythiad mawr i'w goroesiad, ac mae'n nodi'r rhywogaeth fel un sydd mewn perygl.
Ychwanegodd Dr Holmes: “Ar hyn o bryd nid ydym mewn sefyllfa i gadw rhywogaethau sy'n denu credoau afresymol dyn. Mae ein gwaith ymchwil yn awgrymu y dylai cadwraethwyr ystyried dulliau newydd ac ehangach fel ethnograffeg aml-rywogaeth os ydynt am ddeall yn well sut y gall creaduriaid hudol gael effaith ar gadwraeth.”