Gwyddonydd o Gaerdydd yn cael ei anrhydeddu yng Ngwobrau’r Gymdeithas Biocemegol
31 Mawrth 2015
Yr Athro John Harwood yn cael ei gydnabod am ei gyfraniad eithriadol at fiocemeg lipid
Mae gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd wedi cael ei anrhydeddu yng Ngwobrau'r Gymdeithas Biocemegol eleni.
Dyfarnwyd y Wobr Darlith Morton, sy'n cydnabod
cyfraniad eithriadol at fiocemeg lipid, i'r Athro John Harwood o Ysgol y Biowyddorau.
Mae'n un o 11 o wyddonwyr nodedig ledled y byd sydd wedi derbyn acolâdau am eu
gwaith.
Rhoddir y gwobrau i gydnabod rhagoriaeth ymchwil ac amlygu'r effaith fawr y mae
ymchwil gwyddonydd wedi'i chael ar y gymuned wyddonol a chymdeithas ehangach.
Rhoddir rhai gwobrau hefyd am waith eithriadol gan ymchwilwyr ar gam cynnar yn
eu gyrfaoedd.
Cyflwynir Darlith Morton gan John Harwood, Dirprwy Gyfarwyddwr Ysgol y Biowyddorau. Mae John Harwood wedi cael gyrfa hir ym mhen blaen ymchwil i fiocemeg lipid. Mae ei gyfraniadau gwreiddiol at fiocemeg lipid yn niferus ac amrywiol; mae wedi gweithio ym maes biocemeg lipid anifeiliaid a phlanhigion, ac wedi gwneud cyfraniadau pwysig at y ddau. Mae ei ymchwil wedi ymdrin â phob lefel o fiocemeg lipid, o enynnau i gynhyrchion meddygol.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Athro Harwood, Dirprwy Gyfarwyddwr Ysgol y Biowyddorau:
"Mae'n anrhydedd derbyn Gwobr Darlith Morton sydd, yn fy marn i, yn adlewyrchu'r holl waith a gyflawnwyd gan y gwyddonwyr ifanc da yn fy labordy dros y blynyddoedd.
"Mae'n nodedig hefyd bod goruchwyliwr fy Noethuriaeth (J.N. Hawthorne) a chydawdur fy mhapur cyntaf (R.H. Michell) wedi derbyn y wobr yn y gorffennol hefyd. Cefais hyfforddiant da iawn!"
Sefydlwyd Darlith Morton ym 1978 i goffáu'r diweddar R.A. Morton. Mae enillwyr y wobr wedi dangos eu bod nhw wedi gwneud cyfraniad eithriadol at fiocemeg lipid.
Mae derbynwyr Gwobrau'r Gymdeithas Biocemegol, heddiw ac yn y gorffennol, wedi gwneud darganfyddiadau a datblygiadau arloesol mewn meysydd mor amrywiol ag ymchwil canser, biocemeg lipid, bioegnïeg, bioleg RNA, sbectrometreg màs, celloedd ewcaryotig a genynnau bacteria. Maent yn cynnwys nifer o enillwyr y Wobr Nobel.
Dywedodd yr Athro Anne Dell, Cadeirydd y Pwyllgor Gwobrau:
"Mae Gwobrau'r Gymdeithas Biocemegol yn cydnabod gwyddonwyr ar bob cam o'u
gyrfa, ar draws sbectrwm llawn y biowyddorau molecwlaidd.
"Bydd darlithoedd y Gwobrau yn 2016 yn arddangos y cyfraniadau eithriadol y
mae'r enillwyr wedi'u gwneud."
Cynhelir yr holl Wobrau a darlithyddiaethau medal yn 2016, a chyhoeddir yr holl
ddarlithoedd yn Biochemical Society
Transactions.