Academydd i gynghori’r Comisiynydd Ewropeaidd sydd â chyllideb gwerth €351 biliwn
31 Mawrth 2015
Crynodeb ar gyfer mynegai: Uwch academydd yn sicrhau rôl i gynghori'r Comisiynydd Ewropeaidd sy'n gyfrifol am draean o gyfanswm cyllideb yr UE.
Mae uwch academydd o'r Brifysgol wedi sicrhau rôl fawreddog i gynghori'r Comisiynydd Ewropeaidd ar gyfer Polisi Rhanbarthol, sy'n gyfrifol am gyllideb gwerth €351 biliwn i hybu'r safon byw yn rhai o ddinasoedd a rhanbarthau tlotaf Ewrop.
Mae Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygu, wedi dod yn gynghorydd arbennig i Corina Cretu, sy'n gyfrifol am draean o gyfanswm cyllideb yr UE, wrth iddi geisio lleihau anghydraddoldebau economaidd a chymdeithasol.
Dywedodd yr Athro Morgan, o'r Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth, fod graddfa'r her yn anferth, ond roedd o'r farn y byddai ymroddiad Ms Cretu i weithio mewn partneriaeth yn helpu i hybu arloesedd a datblygiad yn rhanbarthau llai datblygedig Ewrop.
"Cydweithio yw cyfrinach arloesedd a datblygu rhanbarthol," meddai.
"Mae ein hymchwil yng Nghaerdydd wedi tanlinellu pwysigrwydd sefydliadau cadarn, llywodraethu da a phartneriaethau deinamig.
"Os gallaf helpu i ledaenu'r neges honno ymhlith llunwyr polisïau, yna gall hynny helpu rhanbarthau i wneud y mwyaf o'u hadnoddau.
"Ni allwch droi rhanbarth llai datblygedig yn rhanbarth datblygedig iawn, wrth gwrs, ond gallwch helpu'r rhanbarthau tlotaf i wneud ymdrech i wella eu hansawdd bywyd."
Mae polisi rhanbarthol yr UE yn cefnogi creu swyddi, ysbryd cystadleuol, twf economaidd, ansawdd bywyd gwell a datblygu cynaliadwy, i greu Undeb Ewropeaidd "lle gall pobl yn ein holl ranbarthau a dinasoedd wireddu eu llawn botensial".
Mae oddeutu €351 biliwn wedi cael ei neilltuo i gyflawni'r nodau hyn hyd at 2020 trwy Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd.
Mae polisi rhanbarthol yr UE yn canolbwyntio ar arloesedd a llywodraethu sefydliadau, meysydd y mae gan yr Athro Morgan – sydd hefyd yn gynghorydd i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd – brofiad eang ynddynt.
"Mae llawer o'm gwaith ysgrifenedig ar ranbarthau wedi ymwneud â rôl sefydliadau mewn arloesedd a'r angen i ranbarthau tlotach dalu mwy o sylw i ansawdd eu sefydliadau a llywodraethu," meddai.
"Mae angen rhoi ystyriaeth fwy difrifol i arloesedd.
"Gall llygredigaeth ac anghymhwystra mewn gwlad danseilio effeithiolrwydd polisi'r UE yn llwyr. Dyma pam mae llywodraethu da ar frig yr agenda.
"Fy rôl i yw cynghori ar adeiladu sefydliadol a llywodraethu da fel rhan o strategaeth datblygu rhanbarthol."
Dywedodd hefyd ei fod yn cytuno'n llwyr â sylwadau Ms Cretu mewn gwrandawiad cyhoeddus Senedd Ewrop, lle dywedodd fod "capasiti sefydliadol, llywodraethu da a phartneriaethau cyhoeddus a phreifat cryf yn bwysicach nag arian".
Croesawodd Mikel Landabasso, Chef de Cabinet Corina Cretu, benodiad yr Athro Morgan.
Dywedodd: "Mae gwaith ymchwil Kevin ar systemau arloesedd rhanbarthol, twf gwyrdd a'r cysylltiad rhwng llywodraethu aml-lefel a llwybrau datblygu, ynghyd â'i brofiad ymarferol yn y maes, gan ddeall pryderon a chyfyngiadau llunwyr polisïau, yn ei wneud yn ased gwerthfawr ar gyfer agenda diwygio Polisi Cydlyniant y Comisiynydd Cretu, yn unol â gwario gwell a dylanwad effeithiol ar lawr gwlad."