Cynhadledd ryngwladol ar ynni i'w chynnal yng Nghaerdydd
21 Awst 2017
Yr wythnos hon, bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal cynhadledd ryngwladol ar ynni, gan ddod â ffigurau blaenllaw ynghyd o brifysgolion a diwydiannau ar draws y byd.
Cynhelir y 9fed Cynhadledd Ryngwladol ar Ynni Cynhwysol rhwng 21 a 24 Awst yn Ysgol Peirianneg, Prifysgol Caerdydd.
Bydd prif areithiau, sesiynau llawn, cyflwyniadau a sesiynau posteri yn rhan o'r digwyddiadau, a bydd arbenigwyr yn ymgynnull er mwyn trafod dyfodol ynni glân, cynaliadwyedd, storio ynni ac ynni adnewyddadwy.
Mae'r gynhadledd wedi'i chynnal yn flaenorol mewn rhai o brif ddinasoedd y byd, gan gynnwys Hong Kong, Singapore, Pretoria, Abu Dhabi a Beijing, a bydd yn dod i'r DU am y tro cyntaf.
Dyfodol carbon isel
Fel rhan o'r gynhadledd, bydd Prifysgol Caerdydd hefyd yn arddangos prosiect £24m FLEXIS.
Mae prosiect FLEXIS yn crynhoi arbenigedd o wahanol brifysgolion Cymru er mwyn hwyluso’r broses o bontio i ddyfodol carbon isel mewn modd fforddiadwy, cynaliadwy a chymdeithasol dderbyniol. Bydd y prosiect pum mlynedd, sy’n cael ei gefnogi gan yr UE, yn ceisio datrys cyfres amrywiol, cymhleth a rhyng-ddibynnol o heriau, sy’n amrywio o storio ynni i ddatgarboneiddio a thlodi tanwydd.
Dywedodd yr Athro Jianzhong Wu, un o drefnwyr y gynhadledd o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd: “Mae'n fraint cynnal cynhadledd o'r fath fri yma ym Mhrifysgol Caerdydd...”
“Mae'n hynod fuddiol felly gallu rhyngweithio â'n cyfoedion o bedwar ban byd dros yr wythnos nesaf, er mwyn rhannu syniadau ac arddangos y gorau o'r gwaith rydym yn ei wneud yma ym Mhrifysgol Caerdydd.”