Yr Archif Darluniadau
31 Mawrth 2015
Datgelu trysor byd-eang: archif chwiliadwy mwyaf y byd o ddarluniadau llyfrau yn gwneud mwy na miliwn o ddelweddau ar gael yn rhad ac am ddim
Bydd trysor byd-eang newydd – Yr Archif Darluniadau – yn galluogi unrhyw un i chwilio mwy na miliwn o ddelweddau a gedwir yn y Llyfrgell Brydeinig yn rhad ac am ddim, diolch i brosiect Prifysgol Caerdydd sy'n lansio heddiw [31 Mawrth 2015].
Cynhelir y prosiect ymchwil gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd, ac maent am wneud 68,000 o lyfrau a gedwir ar gyfer y genedl yn y Llyfrgell Brydeinig yn hygyrch, o ysgrifennu am deithio i hanes, athroniaeth i fotaneg, a phob genre arall.
Dywedodd Julia Thomas, Athro Llenyddiaeth Saesneg, a luniodd y prosiect mewn blwyddyn yn unig, "Mae llafur cariad ein tîm bach, ymroddedig, sy'n cynnwys arbenigwyr mewn Llenyddiaeth Saesneg a Chyfrifiadureg, nid yn unig yn rhoi ail fywyd i filoedd o ddelweddau sydd wedi cael eu hesgeuluso, ond hefyd yn ailgyflwyno ein diwylliant gweledol, a allai fod wedi cael ei golli am byth fel arall."
Wrth esbonio cefndir y prosiect, dywedodd yr Athro Thomas, "Rydym ni wedi canolbwyntio ar ddarluniadau o lyfrau o'r 18fed ganrif i'r 20fed ganrif, a gellir dadlau mai dyma'r cyfnod pwysicaf mewn darluniadau llyfrau Prydeinig. Dyma gyfnod pan oedd newidiadau cyflym mewn technegau atgynhyrchu yn digwydd ochr yn ochr â newidiadau mewn ystyr celf a'i derbyniad. Daeth celf yn fwy hygyrch a darluniadau llyfrau'n gasgladwy'n ehangach ac yn fwy symudol nag erioed o'r blaen. Yn yr un ysbryd, mae ein gwaith yn datblygu'r cam hwn ymhellach i mewn i'r oes ddigidol, fodern.
"Nawr, wrth i'r Archif Darluniadau – sef archif chwiliadwy mwyaf y byd o ddarluniadau llyfrau – ddod ar gael yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd, mae ganddo'r potensial i chwildroi sut mae darluniadau'n cael eu deall a'r pwysigrwydd a roddir iddynt, cyflenwi byd masnachol sy'n awchu am ddelweddau â deunydd delweddol, ac arwain at ffyrdd mwy cywir o ddosbarthu a dadansoddi delweddau mewn cronfeydd data mawr. Rydym yn annog pawb i'w archwilio trwy fynd i illustrationarchive.caerdydd.ac.uk"
Wrth sôn am y prosiect, dywedodd y darlunydd, Quentin Blake, "Mae tudalennau argraffedig y 19eg ganrif yn llawn delweddau rhyfeddol, os gallwn ni ddod o hyd iddyn nhw. Mae'r Archif Darluniadau yn rhoi miliwn ohonynt o fewn cyrraedd. Rhyfeddol."