Arian sylweddol ar gyfer canolfan dadansoddi deunyddiau
17 Awst 2017
Dyfarnwyd dros £3m i bartneriaeth ar y cyd rhwng academyddion o Brifysgol Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain ar gyfer canolfan dadansoddi o'r radd flaenaf, a fydd yn ein galluogi i wneud darganfyddiadau digynsail i briodweddau deunyddiau.
Dyfarnwyd yr arian ar gyfer y cyfleuster Cenedlaethol hwn gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC), a bydd yn galluogi academyddion a diwydiant o'r DU i ddefnyddio'r cyfleusterau diweddaraf ym maes sbectrosgopeg ffotoelectron pelydr-x (XPS).
XPS yw un o'r dulliau safonol o bortreadu arwynebedd unrhyw ddeunyddiau penodol, a gall chwarae rôl hanfodol wrth ddatblygu deunyddiau perfformiad uchel newydd sbon er mwyn helpu deall sut y maent yn ymateb i'r amgylchedd sydd o'u cwmpas.
Gall arwynebedd unrhyw ddeunydd ddylanwadu ar ystod eang o ffactorau, o gyfraddau cyrydu ac ymlyniad i weithgaredd catalytig a natur wlychadwy wrth weithredu fel y pwynt cyntaf o ryngweithio â'r amgylchedd sydd o'i gwmpas.
Dadansoddi arbenigol
Bydd y cyfleuster newydd, a arweinir ar y cyd gan yr Athro Philip Davies o'r Ysgol Cemeg, yn rhoi canolfan dadansoddi ganolog i'r Cyfadeilad Ymchwil yn Harwell, ger Rhydychen. Bydd hefyd yn cynnig cyfle i wneud gwaith dadansoddi arbenigol ym Mhrifysgol Caerdydd, Coleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Manceinion.
Diben cyfleusterau Cenedlaethol EPSRC yw cynnig adnoddau sy'n brin i ymchwilwyr yn y DU oherwydd costau neu ddiffyg mynediad at yr arbenigedd perthnasol.
Dywedodd yr Athro Philip Davies: “Bydd y ganolfan ddadansoddi newydd hon yn rhoi cyfleuster Cenedlaethol EPSRC ym maes XPC yng nghanol campws gwyddoniaeth Harwell, ac yn galluogi ystod eang o waith ymchwil gyda'r gwyddonwyr blaenllaw sy'n gweithio yno...”