Caerdydd ymhlith 100 prifysgol orau'r byd
16 Awst 2017

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael ei henwi'n un o 100 prifysgol orau'r byd a’r 9fed yn y DU ar restr ddylanwadol o sefydliadau byd-eang.
Mae tabl cynghrair Rhestr Academaidd Shanghai o Brifysgolion y Byd ar gyfer 2017 yn rhoi'r Brifysgol mewn safle 99 – ei safle uchaf ers i'r tabl ddechrau yn 2003.
Mae'r tabl, sy'n rhestru 500 prifysgol orau'r byd yn cael ei gydnabod fel meincnod o berfformiad prifysgolion ar lefel ryngwladol.
Mae’r Brifysgol hefyd wedi gwella ei safle cenedlaethol am y drydedd flwyddyn yn olynol, gan gyrraedd y 9fed safle o blith 38 o sefydliadau’r DU a restrir yn y 500 uchaf.
Caerdydd yw’r unig brifysgol yng Nghymru yn y 100 uchaf, ac un o ddim ond naw yn y DU.
Ymhlith llwyddiannau Caerdydd yn y tabl cynghrair mae pum pwnc yn y 100 uchaf yng nghategori’r gwyddorau cymdeithasol, tri phwnc yn y 100 uchaf ym maes y gwyddorau meddygol, a dau bwnc yn y 100 uchaf yng nghategori’r gwyddorau bywyd.
Meddai’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Rwy'n falch o'n cynnydd yn y tabl cynghrair hwn sy'n bwysig ar lefel ryngwladol...”

“Mae cyrraedd y 100 uchaf am y tro cyntaf yn dangos pa mor galed mae ein staff a'n myfyrwyr yn gweithio, ac yn atgyfnerthu ein henw da fel prifysgol fyd-eang sy'n perfformio'n dda.”
Mae'r tabl cynghrair yn cael ei gynhyrchu'n flynyddol ac yn seiliedig ar ddangosyddion sy'n cynnwys nifer y cynfyfyrwyr a staff sydd wedi ennill Gwobrau Nobel a Medalau Fields, nifer yr Ymchwilwyr a Ddyfynnir yn Aml, a nifer yr erthyglau a gyhoeddir yng nghyfnodolion Nature a Science.