Twitter yn helpu i ragfynegi senedd grog
27 Mawrth 2015
Mae ymchwilwyr o Gaerdydd a Manceinion wedi defnyddio Twitter i ragfynegi canlyniad yr etholiad.
Mae grŵp o ymchwilwyr o Brifysgolion Caerdydd a Manceinion wedi defnyddio Twitter i ragfynegi senedd grog ar 7 Mai.
Mae Burnap, Sloan, a Williams o Gaerdydd, ynghyd â Gibson a Southern o Brifysgol
Manceinion, yn un o ddeuddeg grŵp o academyddion blaenllaw sy'n arddangos eu
canfyddiadau heddiw yng nghynhadledd bwysig LES (gweler y tabl isod).
Y grŵp Caerdydd / Manceinion yw'r unig un sydd wedi defnyddio Twitter i
ragfynegi canlyniad yr etholiad. Mae pob un o'r 12 grŵp yn cytuno na fydd
unrhyw blaid unigol yn ennill y 326 sedd sy'n ofynnol ar gyfer mwyafrif
cyffredinol.
Mae tîm Caerdydd / Manceinion yn rhagweld y bydd y Ceidwadwyr yn ennill 286 o bleidleisiau, Llafur 306, y Democratiaid Rhyddfrydol 21 ac UKIP 5; bydd yr SNP yn cael 9, Plaid Cymru 3, a'r Blaid Werdd yn cael 1.
Dywedodd Dr Pete Burnap, sy'n arwain platfform arsylwi'r we COSMOS ym Mhrifysgol Caerdydd:
"Dyma un o'r mentrau cyntaf gan gymuned academaidd
wleidyddol y DU i ddefnyddio Twitter i ragfynegi canlyniad Etholiad.
"Mae rhagfynegiadau wedi cael eu cyhoeddi, ac iddynt lefelau cywirdeb amrywiol,
mewn mannau eraill yn y byd, ond maent wedi cael eu beirniadu rhywfaint
oherwydd materion methodolegol.
"Ar hyn o bryd, rydym yn llunio rhagolygon amrediad pell, a byddwn yn astudio a
yw cywirdeb yn gwella/lleihau yn y cyfnod cyn yr etholiad ac ar ôl i'r
canlyniad ddod i'r amlwg."
Ceid | Llaf | Dem Rhydd | UKIP | SNP | PC | Gwyrdd | Arall | |
Stegmaier a Williams | 233 | 312 | 28 | 55 | 4 | |||
Prosser | 241 | 276 | 48 | 67 | ||||
Ford, Jennings, Pickup and Wlezien (Arsyllfa Pleidleisio) | 265 | 285 | 24 | 3 | 49 | 6 | ||
Clarke, Stewart and Whiteley | 271 | 281 | 36 | 44 | ||||
Rallings, Thrasher and Borisyuk | 275 | 281 | 20 | 2 | 54 | |||
Hanretty, Lauderdale and Vivyan (electionforecast.co.uk) | 284 | 279 | 26 | 1 | 38 | 2 | 1 | 1 |
Burnap, Gibson, Sloan, Southern and Williams | 286 | 306 | 21 | 5 | 9 | 3 | 1 | 1 |
Lewis-Beck, Nadeau and Belanger | 286 | 274 | 10 | 62 |