TEDx Caerdydd
27 Mawrth 2015
Ers ei gynnal am y tro cyntaf yn 2010, mae TEDxCaerdydd yn parhau i ysbrydoli cynulleidfa fyd-eang gyda syniadau gwerth eu lledaenu.
Mae'n bleser gan Brifysgol Caerdydd noddi'r digwyddiad unwaith eto. Fe'i cynhelir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (dydd Sadwrn 28 Mawrth), ac mae pob tocyn wedi'i werthu.
Digwyddiad nid-er-elw yw TED a'i nod yw rhannu syniadau. Gan amlaf, gwneir hyn ar ffurf trafodaethau byr a phwerus. Dechreuodd TED ym 1984 fel cynhadledd i ddod â thechnoleg, adloniant a dylunio ynghyd. Erbyn hyn, mae'n trin a thrafod bron pob pwnc o dan haul - gan gynnwys gwyddoniaeth, busnes a materion byd-eang — mewn dros 100 o ieithoedd. Mae digwyddiadau TEDx a gynhelir yn annibynnol, fel TEDxCaerdydd, yn helpu i rannu syniadau mewn cymunedau ar draws y byd.
Bydd y digwyddiad, a ddarlledir yn fyw ar y we, yn dechrau am hanner dydd gyda thrafodaeth gan yr Athro Dylunio Cynaliadwy a Phennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Chris Tweed.
Mae ei ddiddordebau a'i brofiad yn cynnwys pensaernïaeth, anthropoleg, athroniaeth a thechnoleg. Ar ôl astudio pensaernïaeth yn wreiddiol, mae'r Athro Tweed wedi treulio ei fywyd gwaith yn ymchwilio i bynciau amrywiol yn ymwneud â'r amgylchedd adeiledig. Mae ei waith ym maes dylunio meddalwedd a systemau deallus wedi arwain at ddiddordeb parhaus yn y modd mae pobl yn rhyngweithio â byd dylunio.
Mae wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys ymchwilio i dechnolegau cynorthwyol i'r henoed, gwaith mewn labordai BT ynglŷn â'r rhyngrwyd o bethau, ac astudiaethau o argraff pobl o dreftadaeth ddiwylliannol adeiledig mewn dinasoedd. Mae ei ymchwil ddiweddar yn canolbwyntio ar sut mae pobl yn ymateb i systemau a ddyfeisiwyd gan eraill i ddefnyddio llai o ynni.
Mae Dr Haley Gomez yn astroffisegydd yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Mae ei gwaith yn ymwneud â defnyddio'r camerâu is-goch mwyaf sensitif yn y gofod i ddatgelu tarddiad gronynnau llwch cosmig – hanfodion bywyd.
Mae wedi cael cydnabyddiaeth am ei hymchwil drwy ennill Gwobr Fowler y Gymdeithas Seryddol Frenhinol am ei chyfraniad nodedig fel ymchwilydd ar ddechrau ei gyrfa. Yn 2015, enillodd grant pwysig gwerth €1.8m yr oedd cryn gystadlu amdano i fesur cynnwys llwch galaethau ers y Glec Fawr.
Drwy gydol ei gyrfa, mae wedi bod yn flaenllaw wrth gyflwyno ymchwil i'r cyhoedd. Yn benodol, mae wedi annog merched a phlant o gefndiroedd difreintiedig. Enillodd Wobr Ysbrydoli Cymru yn 2014 am y gwaith hwn fel yr unigolyn mwyaf ysbrydoledig yn y Categori Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Yr Athro Richard Sambrook yw Athro Newyddiaduraeth Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd.
Dechreuodd ef ei yrfa fel gohebydd papur newydd yn ne Cymru cyn ymuno â Radio BBC ym 1980. Mae wedi golygu llawer o raglenni newyddion cenedlaethol ar y radio a'r teledu, gan deithio'n eang i roi sylw i newyddion o bwys, cyn cael ei benodi'n Bennaeth Casglu Newyddion ar draws holl wasanaethau'r BBC. Treuliodd ddegawd wedi hynny ar fwrdd y BBC fel Cyfarwyddwr Chwaraeon, Cyfarwyddwr Newyddion ac, yn olaf, fel Cyfarwyddwr Newyddion Byd-eang a Gwasanaeth y Byd.
Cewch restr lawr o'r siaradwyr ar wefan TEDxCaerdydd neu dilynwch TEDxCaerdydd ar Twitter, Facebook neu Instagram