Canllaw newydd yn ceisio rhoi sgiliau, awgrymiadau a chyngor i newyddiadurwyr ar-lein a hyperleol ar sut i adrodd ar yr Etholiad Cyffredinol sydd ar ddod yn eu cymunedau.
27 Mawrth 2015
Bydd y canllaw, a grëwyd gan y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol a Chanolfan Llywodraethiant Cymru yn y Brifysgol, yn archwilio sut y gall newyddiadurwyr roi sylw i'r Etholiad Cyffredinol yn ddiogel ac yn effeithiol, a chynyddu ymgysylltiad â'u cymuned leol.
Mae'r cyfryngau prif ffrwd wedi bod yn rhan annatod o unrhyw ddadl a chyfranogiad yn ymwneud â'r etholiad ers sawl blwyddyn, o gyflwyno polisïau diweddaraf y pleidiau i ddarlledu dadleuon rhwng arweinwyr.
Fodd bynnag, mae ymddangosiad newyddiaduraeth gymunedol neu hyperleol yn golygu bod llawer mwy o leisiau yn y cyfryngau sy'n dal gwleidyddion i gyfrif ac yn hysbysu'r cyhoedd ehangach.
Ceir dryswch yng Nghymru ymhlith rhai pleidleiswyr ynglŷn â pha sefydliad gwleidyddol sy'n rheoli pa wasanaeth cyhoeddus. Er enghraifft, mae tystiolaeth yn awgrymu nad oedd 42% o bobl yng Nghymru yn gwybod bod y GIG wedi cael ei ddatganoli.
Gobeithir y bydd y canllaw hwn yn helpu i fynd i'r afael â materion o'r fath.
Bydd y canllaw ei hun yn darparu gwybodaeth i newyddiadurwyr hyperleol am:
- Offer a syniadau ymgysylltu yn ymwneud â'r etholiad
- Cyngor ar gyfraith y cyfryngau sy'n ymwneud â rhoi sylw i etholiadau
- Lledaenu data arolygon barn gwleidyddol
- Gwybodaeth am faterion sydd wedi'u datganoli a heb eu datganoli mewn perthynas â Chymru
- Manylion ymgeiswyr yng Nghymru a sut i gysylltu â hwy
- Offer ar gyfer gwerthu eu herthyglau a'u safleoedd i'w cymunedau
Wrth sôn am y canllaw newydd, dywedodd Emma Meese, Rheolwr y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym yn falch iawn o ymuno â Chanolfan Llywodraethiant Cymru a chydweithwyr eraill ym Mhrifysgol Caerdydd i gynhyrchu canllaw cynhwysfawr i'r Etholiad Cyffredinol ar gyfer newyddiadurwyr cymunedol yma yng Nghymru.
"Mae newyddiadurwyr cymunedol yn chwarae rôl bwysig yn ein democratiaeth, gan ddal y rhai sydd mewn grym i gyfrif a chysylltu cymunedau lleol â'u swyddogion etholedig. Gobeithiwn y bydd y canllaw hwn yn grymuso newyddiadurwyr cymunedol i roi sylw i'r Etholiad Cyffredinol yn hyderus."
Lansiwyd y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol yn 2013 ac mae'n un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, sy'n ceisio helpu i drawsnewid cymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a'r tu hwnt.
Mae'r prosiectau ymgysylltu'n gweithio gyda chymunedau ar faterion fel trechu tlodi, hybu'r economi, a gwella iechyd, addysg a lles.
Dywedodd Lleu Williams, Rheolwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: "A ninnau ar drothwy'r etholiad cyffredinol mwyaf agored mewn canrif, mae'n hanfodol bod etholwyr yn teimlo eu bod yn gallu ymgysylltu â materion y dydd.
"Mae'r ffordd y mae pobl yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth yn newid. Gan fod llawer o bobl yn defnyddio gwahanol ffynonellau ar-lein i gael newyddion a gwybodaeth erbyn hyn, bydd rôl newyddiadurwyr hyperleol wrth adrodd ar yr etholiad hwn yn bwysig. Gobeithiwn y bydd y canllaw hwn yn ddefnyddiol iawn i newyddiadurwyr hyperleol sy'n cyfranogi yn yr etholiad cyffredinol 'digidol' cyntaf."