Enwi ysgol yn sefydliad lletyol ar gyfer rhaglen Gymrodoriaeth nodedig y Cenhedloedd Unedig
9 Awst 2017
Yn ddiweddar enwyd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn sefydliad lletyol ar gyfer Rhaglen Gymrodoriaeth Sefydliad Nippon y Cenhedloedd Unedig.
Cyllidir Rhaglen Gymrodoriaeth y CU-Nippon ar gyfer Datblygu Adnoddau Dynol a Dyrchafu Trefn Gyfreithiol Cefnfor y Byd gan Sefydliad Nippon o Japan a'i gweithredu gan Adran Materion y Cefnfor a Chyfraith y Môr (DOALAS).
Amcan y Gymrodoriaeth yw cynnig cyfleoedd ar gyfer ymchwil a hyfforddiant uwch ym maes materion y cefnfor a chyfraith y môr, a disgyblaethau cysylltiedig sy'n cynnwys gwyddor forol, i swyddogion y Llywodraeth a gweithwyr proffesiynol eraill ar lefel ganolig o Wladwriaethau arfordirol sy'n datblygu. Bydd cymrodyr y rhaglen yn cael yr wybodaeth angenrheidiol i gynorthwyo eu gwledydd i ffurfio polisi cefnfor cynhwysfawr a gweithredu'r drefn gyfreithiol a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr (UNCLOS) ac offerynnau cysylltiedig eraill.
Bydd y rhaglen Cymrodoriaeth naw mis yn cynnwys dau gyfnod olynol, sy'n cynnig cyfleoedd ymchwil a hyfforddiant uwch ac wedi'u teilwra i'r Cymrodyr. Mae'r cyfnod cyntaf o dri mis yn cynnwys hyfforddiant ymarferol ym Mhencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.
Mae'r ail gyfnod yn cynnwys chwe mis o Ymchwil ac Astudio Academaidd Uwch - a gynhelir yn un o'r sefydliadau lletyol uchel eu parch, gan gynnwys Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, a than arweiniad arbenigwr/wyr pwnc sydd ag arbenigedd cydnabyddedig ym maes astudio'r Cymrodyr.
Dywedodd Dr Edwin Egede, Uwch-ddarlithydd mewn Cyfraith Ryngwladol a Chysylltiadau Rhyngwladol, sydd wedi chwarae rhan bwysig yng ngwaith cydweithredol yr Ysgol gyda rhaglen Cymrodoriaeth y CU-Nippon, "Mae sicrhau penodiad Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn sefydliad cyfranogol lletyol ar gyfer rhaglen mor bwysig gyda'r Cenhedloedd Unedig yn gyflawniad aruthrol i'r Ysgol. Drwy'r cydweithio hwn gyda'r Cenhedloedd Unedig byddai'r Ysgol ac yn wir Prifysgol Caerdydd yn gwneud cyfraniad hanfodol i adeiladu capasiti byd-eang mewn gwledydd sy'n datblygu."