Adfer fforestydd glaw trofannol
7 Awst 2017
Gall planhigfeydd palmwydd segur ail-dyfu canopïau'r fforest law i lefelau a welir yn aml mewn fforestydd gwyryfol, sy'n cynnig modd o warchod cynefinoedd bywyd gwyllt pwysig sydd dan fygythiad oherwydd dirywiad y fforestydd.
Canfu tîm o ymchwilwyr, gan gynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yng Nghanolfan Maes Danau Girang yn Borneo, fod planhigfeydd segur yn gallu ail-dyfu mewn cyn lleied â 17 mlynedd, gan helpu i ailgysylltu fforestydd ar wahân lle nad yw planhigion ac anifeiliaid yn gallu symud bellach, gan gyfyngu ar eu gallu i atgenhedlu ac ar fioamrywiaeth.
“Mae ein hastudiaeth yn dangos bod adferiad naturiol ar diroedd amaethyddol anghynhyrchiol yn gallu cynnig modd cost-effeithiol o ail-gysylltu cynefinoedd,” meddai Luke Evans, ymchwilydd ôl-ddoethurol yn Sefydliad Carnegie ar gyfer Gwyddoniaeth ac yng Nghanolfan Maes Danau Girang.
Gynefin addas
Mae'r ymchwilwyr hefyd yn nodi bod fforestydd sy'n aildyfu'n naturiol yn gallu cynnig cynefin addas ar gyfer eliffantod Borneo, sydd dan fygythiad. “Mewn cyfnod lle mae fforestydd yn dirywio'n gyflym wrth i blanhigfeydd olew palmwydd ehangu, mae troi tir llai cynhyrchiol yn ôl i fod yn rhan o'r fforest yn gynyddol bwysig. Mae ein hastudiaeth yn dangos bod adfer fforestydd yn ffordd werthfawr o greu cynefin hanfodol ar gyfer eliffantod ac anifeiliaid eraill sydd dan fygythiad” meddai'r cyd-awdur, Greg Asner, o Sefydliad Carnegie ar gyfer Gwyddoniaeth.
Gan ddefnyddio delweddu laser o'r awyr yn Arsyllfa Awyr Carnegie, mesurodd yr astudiaeth faint o gynefinoedd sydd wedi ail-dyfu drwy astudio maint y canopïau, uchder coed, a'r lefel storio carbon. Defnyddiwyd y ffactorau hyn i asesu ansawdd cyffredinol y cynefinoedd a pha mor addas ydynt i fywyd gwyllt.
Bydd gan y canfyddiadau hyn oblygiadau pwysig ar gyfer ymdrechion parhaus Adran Goedwigaeth Sabah i warchod mwy o goedwig yn nhalaith Sabah yn Borneo Malaysia.
Dywedodd Dr Benoit Goossens, Cyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang a Darllenydd yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, “Rydym yn gobeithio y bydd yr astudiaeth hon yn helpu i ddarbwyllo perchnogion planhigfeydd i'n helpu i ail-gysylltu fforestydd iseldir yn Sabah. Gellir gwneud hyn heb lawer o gost i berchnogion y tir, a gall fod yn gymorth mawr o safbwynt cysylltiadau cyhoeddus.”
Mae'r astudiaeth newydd ‘Underproductive agriculture aids connectivity in tropical forests’ wedi'i chyhoeddi mewn cyfnodolyn Forest Ecology and Management.