Morlyn Llanw ‘wedi’i wneud yn y DU, wedi’i gyfosod yng Nghymru’
20 Mawrth 2015
Bydd pob prif ran o brosiect Morlyn Llanw Abertawe yn cael ei wneud yn y DU a'i gyfosod yng Nghymru.
Dywedodd Prif Weithredwr y prosiect, Mark Shorrock, wrth aelodau o Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, y byddai pedwar morlyn pŵer llanw arfaethedig oddi ar arfordir Cymru yn arwain at fuddion economaidd mawr.
Yn araith y gyllideb 2015, dywedodd y Canghellor George Osborne fod trafodaethau ar fin dechrau ynghylch y cynllun morlyn llanw gwerth £1 biliwn.
Dywedodd Mr Shorrock, Prif Weithredwr Morlyn Pŵer Llanw Cyf, wrth y Rhwydwaith Arloesedd y byddai'r prosiect morlyn yn cyfrannu £27 biliwn at gynnyrch domestig gros y DU dros y cyfnod adeiladu o 12 mlynedd.
Mae'r cwmni'n bwriadu adeiladu chwe morlyn llanw: pedwar safle yng Nghymru, yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Bae Colwyn, yn ogystal â Somerset a West Cumbria yn Lloegr.
Dywedodd Mr Shorrock wrth y cyfarfod: "Bydd pob prif ran o'r morlyn yn cael ei wneud yn y DU a'i gyfosod yma yng Nghymru."
Dywedodd y byddai'r prosiect morlyn yn creu pŵer cyfwerth i 4,416 o dyrbinau gwynt ar y môr neu 10 adweithydd.
Dywedodd yr Athro Kevin Morgan, Deon Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd, "Byddai cynnig Morlyn Pŵer Llanw yn helpu Cymru i gyfrannu at nod yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer twf clyfar, cynaliadwy a chynhwysol. Byddai hefyd yn hwb enfawr i ranbarth prifddinas Caerdydd, sydd â'r nod o greu economi ranbarthol fwy arloesol yn ne-ddwyrain Cymru."