A yw ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru yn ‘ddosbarth canol’?
7 Awst 2017
A yw disgyblion sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru yn dod o gefndiroedd dosbarth canol gan fwyaf, ac a oes ots?
Bydd Siôn Llewelyn Jones o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd yn archwilio'r cwestiynau hyn mewn cyflwyniad ym mhabell Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ynys Môn ddydd Iau 10 Awst am 16.00.
Dywedodd: “Gan fod modd dewis yr ysgol y mae eich plant am fynd iddi, ceir tybiaeth fod y rhan fwyaf o'r myfyrwyr sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru yn dod o gefndiroedd breintiedig, dosbarth canol yn bennaf.
“Byddaf yn edrych a yw'r dybiaeth hon yn adlewyrchu tystiolaeth am gyfansoddiad ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg.
“Bydd hefyd yn ystyried sut mae dewis ysgol yn cyfrannu at y gwahaniaethau yng nghyfansoddiad cymdeithasol ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg de-ddwyrain Cymru.”
Diwylliannol, addysgol ac economaidd
Dywedodd Mr Jones fod rhieni'n cael eu dylanwadu gan nifer o ffactorau wrth benderfynu rhwng ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, gan gynnwys rhai diwylliannol, addysgol ac economaidd, a sut mae'r rhain yn ymwneud â'r Gymraeg.
Er bod canfod a yw ysgolion cyfrwng Cymraeg yn “ddosbarth canol” yn gymhleth, dywedodd Mr Jones fod modd dod i rai casgliadau ar sail y data.
“Ar gyfartaledd, mae gan ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru gyfrannau is o ddisgyblion o'r cartrefi tlotaf, oherwydd ar gyfartaledd mae ganddyn nhw ganrannau llai o fyfyrwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim o'u cymharu ag ysgolion cyfrwng Saesneg yn ne-ddwyrain Cymru,” meddai.
Dywedodd fod angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ddatblygu polisïau i wneud yn siŵr bod plant o bob cefndir cymdeithasol yn gallu cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.
Thema Prifysgol Caerdydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2017 yw Cysylltu Caerdydd - sut mae Prifysgol Caerdydd a’i myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr wedi eu cysylltu â Chymru a’r tu hwnt.