Ewch i’r prif gynnwys

Ymunwch â’n harbenigwyr i wylio eclips rhannol o’r haul yn ddiogel

18 Mawrth 2015

Sky with bright orange sun partly covered by moon

Peidiwch â cholli cyfle prin i wylio eclips rhannol o'r haul, a fydd yn weladwy yng Nghaerdydd, ddydd Gwener, 20 Mawrth, gydag arbenigwyr o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.

Bydd y Brifysgol, Amgueddfa Cymru a'r Sefydliad Ffiseg yn cydweithio i sicrhau y gallwch wylio'r ffenomen rhyfeddol hwn yn ddiogel. 

Cynhelir cyfres o sgyrsiau hefyd gan yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, nos Iau, 19 Mawrth, i ddathlu'r digwyddiad hwn.

O oddeutu 0830 ddydd Gwener, bydd y lleuad yn dechrau symud o flaen yr haul. Er na fydd yn cuddio'r haul yn gyfan gwbl yng Nghaerdydd, am oddeutu 0930, bydd yn ymddangos bod y lleuad yn  cuddio oddeutu 85% o'r haul.

Bydd y gostyngiad mewn disgleirdeb yn amlwg, ond ni ddylech edrych arno heb fod yn hynod ofalus.  

Wrth edrych ar yr haul, hyd yn oed yn ystod eclips, mae diogelwch o'r pwys mwyaf – mae'r  haul yn ddigon disglair i achosi niwed parhaol i'r golwg os na fyddwch yn edrych arno'n ddiogel.

I wylio'r eclips yn ddiogel, gwahoddir ymwelwyr i ddod i risiau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, rhwng 0830 a 1030 ddydd Gwener.

Ymunwch â'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Amgueddfa Cymru a'r Sefydliad Ffiseg i wylio'r digwyddiad gan ddefnyddio telesgopau wedi'u dylunio'n arbennig, pecynnau taflunio solar a sbectol eclips.

Os byddwch yn gwylio'r eclips adref, yn yr ysgol neu yn y gwaith, y ffordd fwyaf diogel i wneud hynny yw taflunio delwedd o'r haul.

Gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio camera twll pin, neu hyd yn oed rhywbeth mor syml â hidlwr i daflunio'r ddelwedd ar wal neu ddarn o gerdyn.

Dywedodd Dr Chris North, Cydymaith Ymchwil yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth,  "Mae eclipsau yn un o'r digwyddiadau mwyaf dramatig mewn seryddiaeth, ac mae'n werth ei weld.

"Er na fyddwn yn gweld eclips cyfan o Gaerdydd, bydd yr eclips rhannol yn drawiadol iawn – hyd yn oed trwy gymylau tenau."

Mewn dathliad pellach o'r digwyddiad prin hwn, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnal cyfres o sgyrsiau nos Iau, 19 Mawrth rhwng 1900 a 2130. Bydd yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn cyflwyno sgyrsiau am yr haul, a beth allwn ei ddysgu oddi wrth eclipsau.  

Mae mynediad yn rhad ac am ddim, a bydd y sgyrsiau'n addas ar gyfer plant 12 oed a hŷn.

Rhannu’r stori hon