Profiad fydd yn 'trawsnewid bywydau’ dysgwyr
4 Awst 2017
Bydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn mentora grŵp o blant ysgol uwchradd yn Namibia yn ystod gwersyll pythefnos o hyd Codi dyheadau’r disgyblion yw’r nod, a gallai drawsnewid eu bywydau.
Mae tua 40 o ddisgyblion o ysgol uwchradd yn ne’r wlad wedi eu dewis yn ofalus ar gyfer gwersyll dwys ‘UniCamp’ a drefnir gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia (UNAM).
Bydd ‘llysgenhadon’ myfyrwyr o Gaerdydd ac UNAM yn cefnogi ac yn mentora disgyblion rhwng dydd Llun, 21 Awst 2017 a dydd Gwener, 1 Medi 2017.
Bydd y disgyblion lleol yn dyfeisio ac yn lansio ymgyrch iechyd cyhoeddus cenedlaethol tuag at ddiwedd y gwersyll drwy ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth maen nhw wedi’u caffael.
Mae’r trefnwyr yn gobeithio bydd y profiad yn trawsnewid bywydau’r disgyblion ac y bydd rhai ohonynt yn eu blaen i brifysgol. Gyda lwc, bydd y profiad o fudd i’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan hefyd.
Mae'r cynllun yn rhan o Brosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd, partneriaeth ag UNAM sy’n ceisio gwella iechyd a lleihau tlodi yn Namibia.
Bennaeth ysbrydoledig
Meddai pennaeth yr Ysgol JA Nel, Elizabeth Beukes: “Mae ein plant yn dod o gefndiroedd hynod ddifreintiedig. Ar rai adegau, maen nhw’n brin o hunan-barch - dydyn nhw ddim yn gwybod i ba gyfeiriad y maen nhw’n mynd. Fel ysgol, mae'n ddyletswydd arnom i geisio arwain y dysgwyr mewn modd sy’n cynnig dyfodol iddyn nhw.”
Meddai’r Athro Judith Hall, Arweinydd Prosiect Phoenix: “Mae Elizabeth Beukes yw bennaeth ysbrydoledig. Drwy gydweithio â hi, rydyn ni’n gobeithio gwneud gwahaniaeth go iawn i’r ffordd y mae’r bobl ifanc yma yn ystyried eu dyfodol...”
Bydd y dysgwyr yn gweithio gyda llysgenhadon myfyrwyr a bydd disgwyl iddynt lansio ymgyrch cyhoeddus am iechyd y galon ar gyfer Namibia tuag at ddiwedd y pythefnos.
Meddai Amy Daglish sy’n astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â myfyrwyr o UNAM a chael phrofiad o ddiwylliant Namibia. Gyda lwc, bydd modd i mi defnyddio fy ngwybodaeth feddygol i helpu i baratoi ymgyrch iechyd cyhoeddus gwerth chweil fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn.”
Meddai Shazia Ali, myfyriwr Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rwy'n edrych ymlaen at gael profi diwylliant amrywiol Namibia a chreu ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus gyda myfyrwyr ifanc. Rwy'n awyddus i weld pa effaith a gaiff y gwaith ymgysylltu arnyn nhw ac ar mi fy hun.”
Gwella iechyd a lleihau tlodi
Dywedodd yr Athro Kenneth Matengu, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd a Datblygu, UNAM: “Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod clefydau anhrosglwyddadwy gan gynnwys clefyd y galon a phroblemau fel pwysedd gwaed uchel a diabetes yn cynyddu'n gyflym yn Namibia. Maen nhw’n achosi anabledd, marwolaeth ac yn effeithio ar agweddau cymdeithasol ac economaidd llawer o bobl Namibia. Nod y cynllun yma yw codi ymwybyddiaeth fel bod pobl ifanc yn deall sut i atal hyn rhag digwydd i’r genhedlaeth bresennol a’r rhai sydd i ddod.”
Meddai Dirprwy Weinidog Iechyd Namibia, yr Anrhydeddus Julieta Kavetuna: “Mae clefyd y galon am fod yn broblem iechyd cyhoeddus o bwys yn ein gwlad yn y dyfodol. Rwy’n falch iawn o weld pobl ifanc Namibia, gan gynnwys myfyrwyr a dysgwyr, yn cyfrannu at iechyd ein cenedl mewn modd ystyrlon drwy rannu negeseuon pwysig i atal y broblem...”
Caiff y gwersyll ei arwain gan Scott McKenzie Pennaeth Ehangu Cyfranogiad ac Allgymorth Cymunedol, a bydd hyd at 10 o fyfyrwyr yr un o Gaerdydd ac UNAM yn cymryd rhan.
Mae Prosiect Phoenix yn rhan o fenter Trawsnewid Cymunedau Prifysgol Caerdydd, sy'n ceisio gwella iechyd, cyfoeth a lles pobl yng nghymunedau Cymru a thu hwnt.