Cyfle arbennig i fynd i Batagonia gydag Ysgoloriaeth hael
18 Mawrth 2015
Mae Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, trwy haelioni Banc Santander, yn cynnig dwy ysgoloriaeth gwerth £3,000 yr un i alluogi dau fyfyriwr israddedig i deithio i Batagonia am fis o brofiad gwaith yn ystod haf 2015.
Dyma'r ail flwyddyn i'r Ysgol gynnig y cyfle arbennig hwn.
Bydd y myfyrwyr yn cynorthwyo gwaith 'Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut, Patagonia', a hynny ar adeg arbennig iawn, sef yn ystod blwyddyn 150 mlwyddiant sefydlu'r Wladfa Gymreig ym 1865.
Mae'r Ysgoloriaethau yn agored i bob myfyriwr israddedig yn Ysgol y Gymraeg a fydd yn parhau yn fyfyriwr israddedig yn yr Ysgol yn ystod haf 2015. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 28 Mawrth 2015.
Enillwyd ysgoloriaethau 2014 gan ddwy fyfyrwraig sy nawr ar fin graddio, Siwan Gwyn Jones o Gaerfyrddin ac Angharad Lewis o Lanfair Caereinion. Teithiodd y ddwy i'r Wladfa ym mis Awst 2014 am fis o brofiad gwaith yn helpu gyda gwahanol agweddau ar weithgarwch Cynllun yr Iaith Gymraeg yn y Wladfa. Mae'r Cynllun yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig, Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas Cymru-Ariannin a Menter Iaith Patagonia.
Mae'r profiad gwaith yn amrywiol ac yn cynnwys gweithgareddau megis cynorthwyo mewn ysgolion meithrin a chynradd ac mewn dosbarthiadau dysgu Cymraeg i oedolion.
Dywed Siwan am y profiad: "Mae gen i ddiddordeb arbennig yn hanes y Cymry a fudodd i Batagonia ac felly roeddwn i'n awyddus tu hwnt i ymweld â'r Wladfa i brofi'r awyrgylch a'r dreftadaeth i mi fy hun.
"Fe ges i amser bythgofiadwy ym Mhatagonia a chyfle i gwrdd â nifer o bobl newydd a dod i ddeall eu diwylliant a'u hanes. Roedd hi'n bleser cael hyrwyddo'r iaith Gymraeg, gan ddysgu Cymraeg i rai o drigolion Chubut tra oedden nhw yn rhoi'r cyfle i mi i wella fy Sbaeneg."
Ychwanega Angharad: "Roedd y cyfle i ddysgu ac i addysgu yn wir arbennig ac roedd trigolion Chubut yn groesawgar a hael iawn. Byddwn yn annog myfyrwyr israddedig Ysgol y Gymraeg i geisio am yr Ysgoloriaethau sydd ar gael. Dwi'n sicr na fydden nhw'n difaru."
Os oes gennych chi ddiddordeb yn yr Ysgoloriaethau, dewch i sesiwn gyda'r Athro Wyn James a Siwan ac Angharad yn Ystafell 1.69 ddydd Iau, 19 Mawrth, am 3.10pm.
Am ffurflen gais cysylltwch â swyddfa'r Ysgol.
Darllenwch am brofiadau Siwan ac Angharad.