Athro’r Gyfraith yn chwarae rhan hanesyddol mewn penodiad eglwysig
3 Awst 2017
Roedd gan Athro'r Gyfraith Norman Doe ran yng nghysegriad Esgob benywaidd cyntaf Llandaf yn ddiweddar.
Ar 15 Gorffennaf 2017, Eglwys Gadeiriol Aberhonddu oedd safle cysegru’r Gwir Barchedig June Osborne yn 72ain Esgob Llandaf. Gwasanaethodd yr Athro Doe, sydd hefyd yn Ganghellor Esgobaeth Bangor ble mae'n farnwr llywyddol ei Llys Consistori, fel Proctor. Swyddogaeth y Proctor yw rhoi sicrwydd i'r Synod bod yr esgob a benodwyd yn bodloni gofynion Cyfraith Canon yr Eglwys yng Nghymru er mwyn ael rôl Esgob Llandaf.
A hithau'n gyn-Ddeon Salisbury, June Osborne yw'r fenyw gyntaf i gael y rôl hon mewn hanes Esgobaeth Llandaf. Cyn y cysegriad cynhaliwyd Synod Sanctaidd lle cadarnhawyd y penodiad gan Esgobion yr Eglwys yng Nghymru. Cynhaliwyd y Synod yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ddydd Gwener 14 Gorffennaf.