Y gwrthbleidiau’n derbyn bil Llywodraeth Cymru yn dilyn newidiadau a hybwyd gan academydd o Brifysgol Caerdydd
13 Mawrth 2015
Derbyniodd ymchwil gan yr Athro Emma Renold, yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, glod yr wythnos hon fel un o'r catalyddion ar gyfer newidiadau arwyddocaol i Fil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Llywodraeth Cymru.
Cyflwynwyd Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) gan Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth.
Mewn llythyr i Jocelyn Davies, llefarydd Plaid Cymru dros fenywod a phlant, cadarnhaodd Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, y byddai'r arweiniad a luniwyd bellach yn cynnwys nifer o'r darpariaethau y gwnaeth yr Athro Renold, a Grŵp Gweithredu Trais yn erbyn Menywod Cymru a'r bobl ifanc y mae hi wedi gweithio gyda nhw, lobïo amdanynt.
Mae'r Athro Renold wedi cyflwyno tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig, ym mhob cam o'r bil, ar bwysigrwydd gosod addysg, a phrofiadau plant a phobl ifanc, wrth wraidd y Bil.
Er iddyn nhw wrthwynebu'r Bil yn flaenorol, oherwydd i gynigion addysgol gael eu hepgor, mae Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Rhyddfrydwyr wedi newid eu meddyliau ac wedi pleidleisio o'i blaid ar ôl i'r Gweinidog esbonio y byddai darpariaethau addysgol yn cyd-fynd â'r Bil.
Yn benodol, mae'r darpariaethau hyn yn cynnwys cyflwyno addysg mewn ysgolion ar berthnasoedd iach, trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig, a thrais ar sail rhyw a thrais rhywiol. Mae'r llythyr yn ymrwymo hefyd i sefydlu hyrwyddwyr awdurdodau lleol i gynyddu ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod a merched, a newid agweddau tuag at hyn, gan gynnwys sefydlu hyrwyddwyr mewn ysgolion, fel yr awgrymwyd gan y myfyrwyr y mae'r Athro Renold wedi gweithio gyda nhw.
Yn dilyn sicrwydd y byddai'r newidiadau hyn yn cael eu gwneud, derbyniodd y gwrthbleidiau'r Bil Trais yn erbyn Menywod, sy'n golygu dechrau newid ar raddfa gyfan, yn niwylliant ysgolion i addysgu plant a phobl ifanc am oddefgarwch, parch, cydraddoldeb a pherthnasoedd iach.
Ar ôl clywed am y newidiadau a'r darpariaethau addysgol ychwanegol, dywedodd yr Athro Renold, "Rwy'n falch iawn o weld bod pobl ifanc ac addysg wedi cael eu hymgorffori yn fwy canolog yn y Bil. Roedd y myfyrwyr y bûm yn gweithio gyda nhw yn hynod o frwd dros lobïo ar gyfer y newid hwn, felly rwy'n siŵr y byddan nhw wrth eu boddau eu bod nhw wedi gwneud cymaint o wahaniaeth. Mae'n wych hefyd gweld ymchwil mewn prifysgol a phrosiectau ymgysylltu yn cael effaith uniongyrchol ac yn dylanwadu ar bolisi cenedlaethol ar raddfa mor fawr."
Mae llythyr Mr Andrews yn parhau i gadarnhau y bydd ymchwil yng Nghymru a gyflawnir gan yr Athro Renold yn cael ei defnyddio wrth lunio'r arweiniad statudol yn ei gamau terfynol, ac mae'n ymroddi i amrywiaeth o weithgareddau i hyrwyddo'r rhaglen, gan gynnwys cynhadledd genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, ac eitem agenda ar drais yn erbyn menywod yn y cyfarfod diogelu cenedlaethol nesaf.
Mae'r Athro Renold wedi cael ei gwahodd hefyd – ynghyd â'r bobl ifanc y mae hi wedi gweithio gyda nhw trwy'r ymgyrch 'Rhoi Pwyslais ar Berthnasoedd Iach' – i gynhadledd Cymorth i Fenywod Cymru, ddydd Gwener, 27 Mawrth, i roi cyflwyniad ar bwysigrwydd rhoi pobl ifanc wrth wraidd ymagweddau ysgol gyfan. Bydd pobl ifanc hefyd yn rhannu eu llwyddiannau yng Nghynulliad Ieuenctid Brighter Futures Citizens Cymru a gynhelir ddydd Gwener, 20 Mawrth.
Dywedodd hefyd,
"Mae cyrraedd y pwynt hwn wedi golygu llawer o waith caled a phenderfyniad.
Mae'r hyn a ddechreuodd gyda grŵp
trawsbleidiol (ar blant, rhywioldeb, rhywioli a chydraddoldeb) a syniadau ymchwil
cychwynnol ar sut i sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed wedi datblygu
i fod yn ddarn cynhwysfawr o ymchwil gyfranogol lle daeth hawliau plant a
diogelu plant at ei gilydd i ddeall diwylliannau perthnasoedd ifanc plant. Mae
cyflwyno'r ymchwil hon yng Nghynulliad Cymru dros y 12 mis diwethaf wedi
galluogi profiadau plant o rywiaeth ac aflonyddwch rhywiol i ddatblygu agenda'r
polisi.
Mae hon yn enghraifft wych o sut dylai a sut gall plant fod yn rhan o brosesau
gwneud penderfyniadau ac mae'n gyflawniad pwysig i Gymru. Mae hefyd yn
enghraifft glir o sut gall prifysgolion, llunwyr polisïau a'r trydydd sector
weithio'n llwyddiannus gyda'i gilydd i achosi newid cymdeithasol. Rwy'n gwybod
mai dyma ddechrau cam nesaf y daith yn unig, ond rwyf wrth fy modd fy mod i
wedi cyfrannu at newid mor arloesol ar ôl gweithio yn y maes hwn ers dros 15
mlynedd".