Pam y pleidleisiodd Cymru o blaid Brexit?
2 Awst 2017

Bydd arbenigwr gwleidyddol blaenllaw o Brifysgol Caerdydd yn cyflwyno’r dadansoddiad manwl cyntaf o’r hyn ddigwyddodd mewn gwirionedd yng Nghymru yn ystod y refferendwm dramatig ar yr UE.
Bydd darlith arbennig yr Athro Richard Wyn Jones yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn egluro pam pleidleisiodd Cymru o blaid Brexit er ei bod yn elwa o ryw £245m y flwyddyn gan yr UE.
Dywedodd yr Athro Jones fod ei waith ymchwil yn datgelu gwahaniaethau barn sylweddol iawn yng Nghymru, a hynny yn dilyn ymdeimlad pleidleiswyr o’u hunaniaeth genedlaethol.
Addawodd, erbyn diwedd y ddarlith “y bydd pobl yn dechrau deall gwleidyddiaeth Cymru mewn ffordd wahanol”.

“Hon fydd yr ymgais gyntaf i esbonio canlyniad y refferendwm ar yr UE yng Nghymru, oedd fel petai wedi synnu llawer o bobl”, meddai’r Athro Jones.
“Mae rhai wedi dehongli’r bleidlais fel arwydd o wrthod Cymru a Chymreictod, tra bod eraill wedi’i gweld fel gweithred o hunan-niwed o ystyried dibyniaeth Cymru ar y farchnad sengl a’r cronfeydd strwythurol.”
“Bydda i’n dangos bod rhai gwahaniaethau barn dramatig yn bodoli oddi mewn i Gymru, a bod cysylltiad agos iawn rhwng y gwahaniaethau yma a’r modd y mae pobl yng Nghymru yn synio am eu hunaniaeth genedlaethol.”
Cynhelir y ddarlith ym Mhabell y Cymdeithasau 1 am 11:00 ddydd Iau 10 Awst.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol eleni ar Ynys Môn rhwng 4 a 12 Awst.
Cysylltu Caerdydd yw thema Prifysgol Caerdydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2017 - sut mae Prifysgol Caerdydd a’i myfyrwyr, ei staff a’i chyn-fyfyrwyr wedi eu cysylltu â Chymru a’r tu hwnt.
Rhannu’r stori hon
Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.