Myfyrwyr Colgate yn cwrdd â gweinidogion y Cabinet yn y Senedd
13 Mawrth 2015
Bob blwyddyn, yn ystod semester y gwanwyn, daw myfyrwyr o Brifysgol Colgate ym Madison County, Efrog Newydd draw i Brifysgol Caerdydd fel rhan o'u Rhaglen Astudio Tramor. Yn ogystal ag astudio eu pynciau gradd, rhoddir cyfle unigryw iddynt astudio modiwlau yn Ysgol y Gymraeg sy'n canolbwyntio ar iaith a diwylliant Cymru.
Fel rhan o'r modiwl Wales and the Welsh Language, aeth criw eleni ar daith i'r Senedd ym Mae Caerdydd. Yno, cawsant gyfle unigryw i gwrdd ag aelodau blaenaf cabinet Llywodraeth Cymru –Huw Lewis (y Gweinidog Addysg) a'r Prif Weinidog Carwyn Jones, ynghyd â Hywel Owen, Swyddog Polisi Cyfryngau Llywodraeth Cymru. Treuliodd y myfyrwyr gyfnod yn gofyn cwestiynau i'r gweinidogion am y Senedd, eu rôl yn y Llywodraeth, ac am wleidyddiaeth Cymru'n gyffredinol.