Cwrs Newyddiaduraeth Gymunedol MOCC yn cyrraedd carreg filltir 10,000 o ddysgwyr
10 Mawrth 2015
Mae Cwrs Ar-lein Agored Enfawr (MOCC) Newyddiaduraeth Gymunedol: Cyfryngau Digidol a Chymdeithasol y Brifysgol wedi cyrraedd carreg filltir newydd o 10,000 o ddysgwyr sydd wedi ymuno â'r cwrs.
Caiff y cwrs pum wythnos, a gynhelir gan FutureLearn, ei ddarparu gan Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol.
Arweinir y cwrs gan yr Athro Richard Sambrook, Cyfarwyddwr y Ganolfan Newyddiaduraeth (y ganolfan orau yn y DU ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol ôl-raddedig) a chyn Gyfarwyddwr Newyddion Byd-eang y BBC.
Dywedodd yr Athro Sambrook: "Rwy'n hapus tu hwnt bod dros 10,000 o ddysgwyr wedi ymuno â'r cwrs. Mae'n brawf o boblogrwydd cynyddol y sector newyddiaduraeth gymunedol ac edrychwn ymlaen at gynnal trafodaethau bywiog gyda dysgwyr o amgylch y byd."
Mae canlyniadau arolwg cynnar yn dangos bod carfan sylweddol o fyfyrwyr tramor (dros 60%) yn astudio'r cwrs. Mae dysgwyr o bob rhan o'r byd yn ymuno â'r cwrs, gan gynnwys Afghanistan, Nambia a'r Wcráin.
Yn ogystal, mae canlyniadau arolwg cynnar yn dangos bod dros 40% o'r dysgwyr eisoes yn newyddiadurwyr cymunedol, neu'n bwriadu sefydlu neu gyfrannu at wefannau newyddion cymunedol.
Maen nhw'n gobeithio efelychu llwyddiant dysgwyr y cwrs cyntaf, sydd wedi mynd ati i sefydlu nifer o wasanaethau newyddion cymunedol o ganlyniad uniongyrchol i'w profiad.
Un gwasanaeth o'r fath yw East Grinstead Online, sydd wedi profi llwyddiant aruthrol a denu oddeutu 50,000 o ymwelwyr unigryw bob mis ers cael ei sefydlu yn 2014 a'i ysbrydoli gan y Cwrs Ar-lein Agored Enfawr Newyddiaduraeth Gymunedol.
Lansiodd y Brifysgol ganolfan academaidd gyntaf newyddiaduraeth gymunedol y DU yn 2013 fel un o'i Phrosiectau Ymgysylltu cyntaf, sy'n anelu at drawsffurfio cymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt.
Mae'r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol yn ymchwilio i'r sector hwn sy'n tyfu ac yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio, gwybodaeth a hyfforddiant i newyddiadurwyr cymunedol.
Mae prosiectau ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol yn gweithio gyda chymunedau ar faterion yn cynnwys mynd i'r afael â thlodi, hybu'r economi a gwella iechyd, addysg a lles.
Mae'r cwrs Newyddiaduraeth Gymunedol yn cynnwys y pynciau canlynol: sgiliau newyddiaduraeth sylfaenol, cyhoeddi digidol, gwirio, cyfraith y cyfryngau a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gasglu newyddion ac at ddiben hyrwyddo.
Mae adrannau newydd am gyllid torfol a chyfryngau cymunedol ac ethnig o amgylch y byd wedi cael eu hychwanegu'n ddiweddar.
Mae'r cwrs yn cyfuno tiwtorialau gan arbenigwyr digidol a newyddiadurol sydd wedi gweithio i'r BBC, J-Lab, Trinity Mirror, Ofcom a mwy. Gellir defnyddio nifer o'r dulliau a ddysgir yn rhad ac am ddim a'u gweithredu ym maes newyddiaduraeth gymunedol ac yn y brif ffrwd.
Gall dysgwyr gofrestru ar y cwrs Newyddiaduraeth Gymunedol: Cyfryngau Digidol a Chymdeithasol trwy ymweld â futurelearn.com/courses/community-journalism.