Dysgwyr sy’n oedolion yn dathlu
9 Mawrth 2015
Mynychodd dros 200 o westeion seremoni yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes y Brifysgol i ddathlu llwyddiant dysgwyr sy'n oedolion.
Bob blwyddyn, mae miloedd o oedolion ledled de-ddwyrain Cymru a thu hwnt yn cofrestru ar fodiwlau yn y Ganolfan ac mae nifer yn penderfynu defnyddio'u credydau tuag at wobr. Yna, mae rhai myfyrwyr, fel Fatma Pinar John, yn penderfynu mynd ymlaen i astudio cwrs gradd.
"Bob tro ar ôl mynychu fy nghyrsiau, byddem yn teimlo fy mod yn y lle iawn i wireddu fy mreuddwydion! Mae pawb yn y ganolfan, o'r tiwtoriaid i'r gweinyddwyr, yn ymroddedig i'w swyddi ac yn cynnig cymorth parhaus. Rhoddodd eu hagwedd broffesiynol hwb, hyder a hapusrwydd i mi yn ystod fy astudiaethau. Bellach, rwyf yn unigolyn academaidd sy'n mwynhau heriau addysgol," medd Fatma.
Ychwanegodd Dr Zbig Sobiesierski, Deon Dysgu Gydol Oes: "Dyma gyfle ardderchog i ddathlu gyda'n myfyrwyr wrth hyrwyddo'r ystod o weithgareddau a ddarperir gan y Ganolfan. Rydym yn anelu at gefnogi a hwyluso addysg uwch hyblyg, hygyrch ac o ansawdd ar gyfer ystod amrywiol o gymunedau, unigolion a sefydliadau. Er bod y ganolfan, o bosibl, yn fwy adnabyddus am ei phrosbectws o gyrsiau cyhoeddus, Choices, mae'r cyfleoedd sydd ar gael wedi parhau i esblygu dros amser i gynnwys ystod o weithgareddau mynediad ehangach a datblygiad proffesiynol, sydd bellach yn cynnwys Llwybrau at Gyrsiau Gradd."
Mae amrywiaeth o bynciau ar gael i'w hastudio, gan gynnwys busnes a rheoli, astudiaethau cyfrifiadurol, y dyniaethau, cysylltiadau rhyngwladol a gwleidyddiaeth, y gyfraith, ieithoedd, y gwyddorau a gwyddoniaeth amgylcheddol a chymdeithasol. I gael mwy o wybodaeth am y cyrsiau rhan-amser sydd ar gael, ewch i www.caerdydd.ac.uk/learn/ neu ffoniwch 029 2087 0000.